Mae'n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru. Rwy'n addo bod yn llais cryf yn y Senedd i holl drigolion cymunedau etholaethau Castell-nedd, Abertawe, Gŵyr, Aberafan, Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr, ni waeth am bwy y gwnaethon nhw bleidleisio.
Roeddwn yn falch o'r ymgyrch gadarnhaol y bûm yn rhan ohoni yma yn Etholaeth Castell-nedd ac rwy’n credu y llwyddodd i dynnu sylw at lawer o faterion pwysig - fel yr angen i gefnogi canol ein trefi a'n strydoedd mawr, a’r angen i ddiwygio'r lefel annerbyniol o uchel o dreth gyngor yr ydym yn ei thalu. Fel AS dros y rhanbarth, byddaf yn parhau i ymgyrchu ar y materion hynny ac yn pwyso ar Lywodraeth Lafur newydd Cymru i weithredu a gwrando'n fwy astud ar bryderon pobl.
Gwelsom gynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, gan osod Plaid yn gadarn fel y dewis arall yn lle Llafur yn yr ardal hon. Yn etholaeth Castell-nedd roedd y bleidlais yn erbyn Llafur yn fwy na'r bleidlais dros Lafur, ond fe'i rhannwyd ar draws llawer o bleidiau. Y gan-ran a bleidleisiodd oedd 47%. Roedd Plaid Cymru yn ail glir, a gobeithiaf nawr weithio'n galed yn y blynyddoedd i ddod i gynnig dewis credadwy a fydd yn ysbrydoli mwy o bobl i bleidleisio. Mae democratiaeth yn dibynnu ar ddewis.
Felly, mae'r gwaith yn parhau. Mae gan ein cymunedau broblemau difrifol sydd â gwreiddiau dwfn - megis lefelau tlodi plant a chyflogau isel a oedd yn bodoli cyn i'r pandemig daro. Rwy’n teimlo’n gyffrous i fod yn rhan o dîm newydd ac egnïol newydd o Aelodau Plaid Cymru, sydd â thân yn eu boliau ac a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddwyn llywodraeth newydd Cymru i gyfrif ar y materion hyn. Mae’n fraint arbennig i fod wedi cael fy mhenodi yn lefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau.
Nid oes gennyf swyddfa leol eto - mae hynny i gyd i'w drefnu yn ystod y misoedd nesaf - ond gall-wch gysylltu gyda fi drwy ebostio [email protected] os oes gennych unrhwy fateri-on i’w codi.