Adroddiad diwedd tymor: Gorffennaf 2021

Mae hi wedi bod yn dymor cyntaf prysur iawn yn y Senedd, yn cynrychioli pobl Gŵyr, Abertawe, Castell-nedd, Aberafan, Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr, fel aelod rhanbarthol dros Orllewin De Cymru.

Mae llawer ohonoch wedi bod mewn cysylltiad am nifer o faterion a phryderon, ac rwyf wedi bod yn codi'r rhain yn lleol gyda'r awdurdodau perthnasol, yn y wasg, a hefyd, pan gefais gyfle i wneud hynny, yn Siambr y Senedd.

Mae rhai materion a godwyd gennych yn ymwneud ag effaith y cyfyngiadau Covid - megis annhegwch ac ansensitifrwydd peidio â chaniatáu i bartneriaid fynychu pob sgan beichiogrwydd a'r diffyg gwybodaeth a gweithredu ar ailgychwyn gwasanaethau deintyddiaeth. Rwyf hefyd wedi bod yn codi materion pwysig fel y diffyg cynnydd o ran sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus well yn ein hardal, a’r angen i gofio am ardaloedd fel Cwm Tawe a Chwm Afan pan ddaw at y cynlluniau ar gyfer Metro De Orllewin Cymru. Gofynnais i'r llywodraeth hefyd pa gynnydd a wnaed o ran datblygu morlyn llanw Bae Abertawe.

Yn genedlaethol, rwyf wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â’r lefelau o dlodi yr ydym yn ei weld yng Nghymru, a gwrando ar alwadau arbenigwyr gwrth-dlodi sy’n dweud mai un o’r mesurau mwyaf effeithiol a phwysig i helpu plant sy’n byw mewn tlodi fyddai sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael i bob plentyn y mae eu teuluoedd yn gymwys i dderbyn Credyd Cynhwysol.

Mae materion eraill a godwyd gennyf wedi bod yn faterion llosg ers tro:

- y lefel uchel y Dreth y Cyngor yng Nghastell-nedd Port Talbot

- yr angen am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio Canol Tref Castell-nedd

- annhegwch polisïau trafnidiaeth ysgol, o ran rhoi teuluoedd incwm is dan anfantais, ledled y rhanbarth

- y sefyllfa o ran y diffyg darparu prydau ysgol poeth i ddisgyblion Ysgol Godre'rgraig yn eu lleoliad dros dro yn Ysgol Cwm Tawe

- a'r ymgyrch barhaus yn erbyn y cynlluniau i gau ysgolion yng Nghwm Tawe.

Roeddwn yn falch bod Jeremy Miles AS, yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog Addysg, wedi oedi'r broses honno ar ôl i mi ac eraill ei herio i ymyrryd, oherwydd effaith y cynllun ar y Gymraeg yn Nghwm Tawe. Rhaid nawr edrych ar frys eto ar yr agweddau amhriodol eraill y cynllun-  a drafodwyd yn eang yn y cyfryngau -  a fydd yn gweld cau tair ysgol gymunedol hyfyw, yn groes i farn mwyafrif helaeth y trigolion lleol. Byddaf yn ceisio sicrhau bod hynny'n digwydd, gan fod penderfyniad Cynghorwyr Llafur CNPT i anwybyddu barn a gwrthwynebiadau dilys rhieni, llywodraethwyr, cynrychiolwyr lleol a thrigolion yn wirioneddol anhygoel. Beth yw pwynt cynnal ymgynghoriad cyhoeddus os ydych chi'n mynd i anwybyddu a diystyru pob pwynt a godir gan y rhai y bydd y cynigion yn effeithio arnynt am genedlaethau i ddod?

Er fy mod yn dal wrthi gyda'r broses o agor fy swyddfa yng nghanol tref Castell-nedd ar hyn o bryd, cofiwch y gallwch gysylltu â mi trwy e-bostio: [email protected].

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd