“Menywod yn perthyn ym mhob man lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud” - Sioned Williams AS
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025, mae Sioned Williams AS Plaid Cymru wedi dweud bod “Plaid Cymru yn cymryd ein rôl o ddifrif i rymuso menywod mewn gwleidyddiaeth” ac yn gobeithio ethol mwy o fenywod nag erioed yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Y thema eleni yw “Cyflymu Gweithredu” wrth i ni ymdrechu am gydraddoldeb rhywiol llawn – gyda’r thema’n galw am fwy o fomentwm a brys wrth fynd i’r afael â rhwystrau a rhagfarnau systemig sy’n wynebu menywod a merched.
Dywedodd Sioned Williams AS bod “menywod yn perthyn ym mhob man lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud”, a bod yn rhaid i ni gymryd y thema eleni yn syth ymlaen i rymuso menywod mewn gwleidyddiaeth.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu’r cynnydd sydd wedi bod i hyrwyddo cydraddoldeb, ond rhaid cofio hefyd bod cymaint o waith i’w wneud o hyd – ac yn yr ysbryd hwnnw rhaid cymryd y thema eleni ymlaen i gyflymu gweithredu yn ein cymunedau ac yn ein democratiaeth.
“Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn dyngedfennol i fenywod yng Nghymru: cyfle i sefyll etholiad i’n Senedd, i fod yn rhan o wneud penderfyniadau ar y lefel uchaf, ac i ddylanwadu ar bolisïau sy'n effeithio ar fenywod bob dydd – er gwell. Mae hyn hyd yn oed yn fwy hanfodol o ystyried y lefelau cynyddol o gamymddwyn a thrais yn erbyn menywod a merched yn ein cymdeithas.
“Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn cymryd ein rôl o ddifrif i rymuso menywod mewn gwleidyddiaeth. Y flwyddyn nesaf, gobeithiwn i ethol mwy o fenywod nag erioed i adeiladu ar lwyddiant ein grŵp cryf o ASau benywaidd yn San Steffan, i ymrwymo i ddyfodol lle mae lleisiau menywod yn adleisio ym mhob siambr a bod menywod yn ymwybodol eu bod yn perthyn ym mhob man lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.”