Mae canol ein trefi yn wynebu heriau enfawr. Ers cael fy ethol, rwyf wedi siarad â llawer o drigolion a pherchnogion busnesau am lawer o'r heriau hyn, yn ogystal â'r cyfleoedd ar gyfer twf ac adfywio.
O ganlyniad i gau Marks and Spencer yn fuan a chwestiynau o'r newydd am ddyfodol canol tref Castell-nedd, rwy'n gofyn am eich barn ar yr holl faterion sy'n ymwneud â'r dref. Ceisiwch ateb pob cwestiwn os gwelwch yn dda.
Bydd eich atebion yn helpu i lywio fy nghwestiynau i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r camau gweithredu y byddaf yn eu cymryd i gefnogi canol tref sy’n gryfach, yn fwy diogel a mwy bywiog.