AS yn galw am gynllun gorsaf reilffordd yng Gastell-nedd

Mae Sioned Williams, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi galw ar Drafnidiaeth Cymru i geisio barn y gymuned ar ddyfodol gorsaf reilffordd Castell-nedd, yn dilyn pryderon nad yw cyflwr presennol yr orsaf yn foddhaol.

Mae swyddfa’r AS wedi’i lleoli rhwng Orsafoedd Rheilffordd a Bws Castell-nedd.

Dywedodd Sioned Williams:

“Er taw Gorsaf Reilffordd Castell-nedd hi yw’r chweched orsaf fwyaf yng Nghymru o ran y nifer o ddefnyddwyr – sef hanner miliwn o bobl – nid yw’n cynnig croeso cynnes ar hyn o bryd. Mae'r orsaf ei hun yn edrych yn adfail a gall yr adeilad swyddfa bost gwag gerllaw roi argraff annheg i bobl sy'n cyrraedd y dref.

“Mae sawl busnes yn yr ardal gyfagos wedi buddsoddi mewn ceisio creu gofod deniadol a bywiog, ond dim ond hyn a hyn y gallant ei wneud.

“Nid yn unig mae gorsafoedd rheilffordd yn fodd hanfodol o gymudo dyddiol i weithwyr ledled ein gwlad, maent hefyd yn gweithredu fel canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus lleol, pwyntiau gwybodaeth cymunedol ac hefyd yn helpu creu ymdeimlad o le.”

Yn 2018, ceisiwyd cyllid gan Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi datblygiad canolbwynt trafnidiaeth integredig ar gyfer Castell-nedd.

Ar y pryd, fe ddywedodd swyddogion y cyngor taw eu gobaith oedd y byddent yn gallu cyflawni rhywbeth tebyg i Hwb Trafnidiaeth Port Talbot – gan ddod â gwasanaethau trên, bysiau a thacsis ynghyd â chynlluniau teithio llesol mewn un lle.

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Rwyf eisoes wedi ysgrifennu blaen at Drafnidiaeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ac er gwaethaf rhai enghreifftiau o fuddsoddiad, nid yw’n ymddangos bod unrhyw strategaeth gynhwysfawr, gyhoeddus ar gyfer gwella’r orsaf hon a’r ardal gyfagos ac mae’r cynnydd yn llawer rhy araf.

“Rwyf nawr yn galw ar Drafnidiaeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys y cyngor bwrdeistref sirol, y cyngor tref, busnesau, grwpiau cymunedol a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, i lunio cynllun ar gyfer adfywio’r orsaf hon.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd