Wythnos brysur eto! Dyma crynodeb byr o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, siaradais yn y Senedd am yr angen i lywodraethau ym mhobman wneud yn well o ran hawliau pobl anabl.
Os yw Llywodraeth Cymru am gymryd ei hymrwymiad at wireddu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang o ddifrif, mae'n bwysig bod cysondeb rhwng ei datganiadau a'i gweithredoedd: https://fb.watch/heLNMyUByQ/
Mae pwysau penodol ar gyllidebau awdurdodau lleol o ran y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol yn fy rhanbarth yng Ngorllewin De Cymru. Galwais felly ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu hariannu’n ddigonol yn fy rhanbarth a ledled Cymru: https://fb.watch/hff48TOjTr/
Roeddwn yn falch o gefnogi UCU Cymru yn ei rali yn y Senedd wythnos yma, yn eu brwydr dros dal, amodau a phensiynau teg. Solidariaeth! Mae Plaid Cymru yn sefyll gyda chi!
Treuliais y bore gyda Wendy, Karen, Elisha a'r gwirfoddolwyr anhygoel yng nghanolfan galw heibio Blaen-y-maes . Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud i gefnogi'r gymuned leol yn aruthrol. Gwelais sut mae'r banc bwyd, y siop ddillad cymunedol, yr ardd gymunedol a'r gweithgareddau cymdeithasol y maent yn eu darparu yn rhoi cefnogaeth ac yn hyrwyddo lles a sgiliau. Maen nhw bob amser yn chwilio am roddion ar gyfer y siop ac ar hyn o bryd mae angen dillad dynion yn arbennig arnynt.
Ces i gyfarfod ag Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor CNPT er mwyn codi materion lleol a thrafod cynlluniau’r cyngor ar gyfer y dyfodol. Nes i hefyd croesawu’r newyddion y bydd Cyfeillion Parc Coffa Talbot o’r diwedd yn derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ategu arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, i wneud gwaith angenrheidiol ar y bandstand. Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod mewn cyswllt rheolaidd â chynrychiolwyr o’r Cyngor, gan wthio am gytundeb a fyddai’n caniatáu i’r gwaith fynd rhagddo.
Nes i hefyd nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action. Eleni maent yn amcangyfrif y bydd 6.7 miliwn o aelwydydd y DU yn byw mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys o leiaf 45% o aelwydydd Cymru. Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod fforddio gwresogi eu cartref, maen nhw yma i helpu - mae'r NEA yn cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth yn uniongyrchol i bobl mewn angen, a thrwy weithwyr rheng flaen a chyfryngwyr eraill.
Ffoniwch 0800 304 7159, dydd Llun i ddydd Gwener 10.00am-12.00 canol dydd https://www.nea.org.uk/get-help/
Roedd yn bleser cael annerch Ffederasiwn y Townswomen's Guild De Orllewin Cymru heddiw yng Nghapel Soar, Pontardawe a bod yn rhan o’u Gwasanaeth Carolau blynyddol hyfryd. Roedd yn brofiad arbennig i mi allu croesawu aelodau o bob rhan o Dde Orllewin Cymru i fy nghapel fy hun! Da iawn i bawb a helpodd i drefnu'r digwyddiad hwn a chodi arian ar gyfer Grŵp Cymorth Cardiac Cwm Tawe.
Nes i orffen yr wythnos yn Siopa Nadolig! Diolch i Gynghorwyr Tref Pontardawe am eu gwaith caled ac i bawb a fu'n helpu trefnu yr Wyl Gaeaf bendigedig! Ac ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ymwelais â busnesau bach lleol gwych yn y dref sy'n helpu i sicrhau bod pob punt sy'n cael ei gwario yn aros yn yr economi leol.
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)