Dyma crynodeb byr o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth.
Ar raglen Sharp End ITV Cymru, galwais ar Lywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng y GIG drwy sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu’n deg. https://fb.watch/iahotWPu9A/
Cefais fy nghyfweld gan Newyddion y BBC ac S4C am fy ngwrthwynebiad i'r cynlluniau i gau tair ysgol yng Nghwm Tawe i greu un ysgol enfawr ym Mhontardawe. Siaradais am fy ngwrthwynebiad i’r cynlluniau i gau Ysgolion Alltwen, Llangiwg a Godre’rgraig ar Newyddion S4C neithiwr. Ni ddylai Llywodraeth Cymru erioed fod wedi rhoi sêl bendith i’r cynlluniau hyn sy’n rhedeg yn groes i gynifer o nodau polisi cenedlaethol. Mae'r Glymblaid Enfys newydd sydd wedi cymryd drosodd gan Lafur ar Gyngor CNPT wedi atal y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei glywed. Yr ymgynghoriad newydd hwn yw eich cyfle i leisio eich barn. Mae angen cyflwyno opsiynau amgen o ran darpariaeth addysg cyfrwng Saesneg yng Nghwm Tawe a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd cyllid ar gael i’r cyngor ar gyfer yr opsiynau posibl eraill. Mae'r ymgynghoriad wedi’i ymestyn tan8 Chwrfror. Rhannwch eich safbwyntiau yn fan hyn: https://www.npt.gov.uk/1891?lang=cy-gb#contents1. Darllewnwch y stori lawn yma: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/64260808?fbclid=IwAR0jtHga3wlWIQgpBDrZtlaxLzlCeYnXwuzvs3Jx7aWQGEhVJSBbJvkg6q8
Yn y Senedd noddais a siaradais yn y lansiad Cymreig o adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig Cyfochrog Cymru a Lloegr Just Fair UK Cymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Roedd trafodaeth wych ar gyflwr hawliau pob dydd ac mae’r adroddiad yn uwcholeuo'r materion sy'n tramgwyddo'r hawliau hynny - fel effaith tlodi, anghydraddoldebau croestoriadol, amodau gwaith gwael a thai anfforddiadwy neu anaddas - ac yn dal Llywodraethau y DG a Chymru i gyfrif. Darllenwch yr Adroddiad yma: Just Fair
Mewn digwyddiad RNIB yn y Senedd cwrddais Paul Jones o Faglan a siaradodd am ei brofiadau a’i syniadau ynghylch yr hyn y gallai'r GIG ei wneud i wella’r ffordd y mae’n cyfathrebu â chleifion dall ac â golwg rhannol a sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau. Mae anghydraddoldeb yn rhoi cleifion mewn perygl o niwed ac yn tanseilio'u hannibyniaeth.
I nodi 200 mlynedd ers ei eni, rhoddais deyrnged yn y Senedd i’r naturiaethwr enwog Alfred Russel Wallace a oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghastell-nedd. Darlllenwch fwy yma: Naturiaethwr mwyaf Prydain - Sioned Williams AS (Cymraeg)
Fe gwrddais yn ddiweddar â British Gas a'r British Gas Energy Trust i drafod y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i aelwydydd sy’n dioddef yn sgîl yr argyfwng costau byw. Gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol gyda chostau ynni cartref. Rhagor o wybodaeth: Help if you're struggling to pay for your energy (britishgas.co.uk)
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)