Golwg sydyn ar wythnos brysur arall!
Er mwyn mynd i'r afael ag Argyfwng y GIG, dywedodd y Llywodraeth fod angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd. Ond dyw hi ddim mor syml â hynny pan fo tlodi'n eich atal rhag fedru gwneud hynny. Mae amddifadedd yn achosi afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd, gan gynyddu'r pwysau ar wasanaethau iechyd. https://fb.watch/ioJ9aBUg9g/. Yn y Senedd cyfrannais i ddadl am Gynllun Pum Pwynt Plaid Cymru i fynd i’r afael ag Argyfwng y GIG, gan bwysleisio’r angen am fesurau iechyd ataliol i leddfu’r pwysau ar wasanaethau. https://fb.watch/ioJ06zB9xl/ Darllenwch fwy yma: https://www.plaid.cymru/cynllun_pum_pwynt_five_point_plan
Siaradais â Newyddion S4C am fy mhryderon yn wyneb yr honiadau difrifol diweddar o gasineb at fenywod o fewn URC. Fe gwrddais ag Undeb Rygbi Cymru y llynedd i drafod y diffyg cefnogaeth i fenywod yn eu sefydliad. Mae angen i URC, ein holl gyrff cenedlaethol a’n holl weithleoedd wneud mwy i ddileu casineb at fenywod a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd. https://fb.watch/ioItebxvre/
Bues i mewn digwyddiadau i nodi Diwrnod Coffau’r Holocost a galwais mewn araith yn y Senedd i lywodraethau sefyll i fyny yn erbyn casineb o bob math. Roedd yn anrhydedd i gwrdd â Hedi Argent, oroesodd yr Holocost, yn nigwyddiad Coffáu’r Holocost y Senedd heddiw, a chlywed ei hanes torcalonnus a phwysig. Roedd ei stori yn rhybudd mor eglur am sut y gall geiriau arwain at gasineb, a chasineb at drais annynol - ddoe a heddiw. Areithiau gwych hefyd gan Owen a Maisie o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ar eu profiadau a'u myfyrdodau fel Llysgenhadon Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.
Yn gynharach yr wythnos hon bues i mewn digwyddiad yn y Senedd a drefnwyd gan There and Back Again, sy’n codi ymwybyddiaeth am Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, i gofio pawb a ddioddefodd yn sgil yr Holocost. Heddiw, ar Ddiwrnod Coffáu'r Holocost, cofiwn y chwe miliwn o Iddewon a miliynau o fywydau diniwed eraill a gymerwyd gan y Natsïaid
Rhaid gweithredu bob dydd i sicrhau na fydd erchyllterau o’r fath byth yn digwydd eto, drwy sefyll yn erbyn casineb o bob math. https://fb.watch/ioJmrvVtFD/
Gyda chanlyniadau’r cyfrifiad yn dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru, galwais ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol i Dŷ’r Gwrhyd, canolfan Gymraeg Cwm Tawe, sy’n chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo’r iaith. https://fb.watch/ioITtvnSII/
Cymerais ran mewn uwchgynhadledd Y Felin Drafod yn Abertawe yn trafod sut y byddai Annibyniaeth yn galluogi Cymru i greu dyfodol tecach, gwyrddach.
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)