Wythnos brysur eto! Dyma crynodeb byr o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth.
Galwais ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau plant ledled Cymru, yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar achos trasig Logan Mwangi, 5 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei lofruddio ym mis Gorffennaf 2021. Darllenwch fwy yma: AS Plaid yn galw am adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn achos Logan Mwangi - Sioned Williams AS (Cymraeg)
Gofynnais i Lywodraeth Cymru pa gymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd a darodd Melincryddan, Castell-nedd a sut y byddant yn cefnogi Cyngor CNPT, sydd wedi gwario miloedd o bunnau ar gostau glanhau, i sicrhau gwell fesurau atal llifogydd. https://fb.watch/h8aHsJtCqy/
Ymunais ag aelodau UCU Abertawe ar y llinell biced ym Mhrifysgol Abertawe i gefnogi eu streic am gyflog teg, pensiynau teg a gwell sicrwydd swydd.
Cwrddais â phrotestwyr ddaeth i’r Senedd i ymgyrchu yn erbyn gormes llywodraeth Iran. Mae'r frwydr dros gyfiawnder, hawliau dynol a chydraddoldeb i fenywod yn frwydr fyd-eang. #MashaAmini
Ac roedd yn bleser croesawu Hanna Morgans i'r Senedd yr wythnos hon, fel rhan o'i gwobr am ennill cystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan a drefnwyd gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod yr Urdd, ac a feirniadwyd eleni gan Llyr Gruffydd AS. Mae Hanna, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, wedi bod yn dysgu am fy ngwaith fel AS. Pob lwc yn y dyfodol Hanna!
Ac yn olaf lawnsiais cystadleuaeth i wahodd pob plentyn oed ysgol gynradd yn siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phenybont i gymryd rhan yn fy nghystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig!
Ebostiwch eich llun at [email protected] DYDDIAD CAU 12.12.22
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)