Cip olwg ar fy ngwaith yn y Senedd ac yn y gymuned dos yr wythnos diwethaf.
Yn y Senedd, galwais ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu grymoedd presennol i godi mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i ddatganoli’r grymoedd sydd eu hangen i wneud trethiant tecach yn bosibl. Gwyliwch fwy yma: https://fb.watch/iH5U9GMxTl/
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Merched mewn Gwyddoniaeth, es i ar ymweliad i gwmni Power and Water yn Llansamlet i gwrdd â COO Mike Rattenbury a grŵp o fenywod ifanc ysbrydoledig, Lizzie, Kat ac Iryna, sy'n arwain y ffordd o fewn y cwmni. Roedd clywed am y gwaith arloesol y maent yn ei wneud ym maes technoleg trin dŵr cynaliadwy yn hynod ddiddorol ac yn enghraifft wych o’r dalent a’r arloesedd y gallwn eu cyflawni yma yng Nghymru. Un yn enedigol yn Abertawe, un wedi graddio o Prifysgol Abertawe ac un yn ffoadur o'r Wcráin sydd wedi ymgartrefu yn Abertawe - maen nhw i gyd yn enghreifftiau ysbrydoledig o pam mae annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn pynciau STEM mor fuddiol. Darllenwch fwy yma: https://www.sionedwilliams.cymru/sioned_williams_praises_swansea_sustainable_business
Roeddwn yn falch i noddi digwyddiad Chwarae Teg yn y Senedd heddiw i drafod eu hadroddiad #CyflwryGenedl2023. Canfyddiadau pryderus am ddiogelwch menywod, a diffyg cynnydd ar fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Cymaint o waith i'w wneud. https://chwaraeteg.com/newyddion/cyflwr-y-genedl-2023-menywod-yn-aros-degawdau-am-gydraddoldeb/
Cwrddais â Cydlynydd Datblygu Dwyieithrwydd, Angharad Morgan a Thiwtor Cymraeg Gwaith Llinos Davies yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot i glywed am y Prosiect Cymraeg Gwaith ac i ddathlu ei lwyddiant yn y coleg.
Galwais ar Trafnidiaeth Cymru i ofyn am farn y gymuned ar adfywio gorsaf drenau Castell-nedd. https://nation.cymru/news/plaid-ms-calls-for-plan-to-improve-run-down-neath-train-station/
Cynhaliodd fy nhîm a minnau gymhorthfa stryd yn Nhreforys a siarad â thrigolion lleol am eu pryderon.
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)