Trosolwg cyflym o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth yr wythnos hon.
Wythnos yma yn i Siamber gofynnais pa gamau y mae Gweinidog yr Economi yn eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb i fenywod yn y gweithle ar ôl i adroddiad ddangos cynnydd yn y bwlch rhwng cyflog dynion a menywod mewn gwaith llawn amser. https://fb.watch/gUQUG0hxNm/
Siaradais hefyd, mewn dadl yn y Senedd am yr angen am fwy o Doiledau Changing Places, i helpu pobl anabl a’u teuluoedd i gael mynediad i fwy o leoedd y tu fas i’r cartref. https://fb.watch/gUQ-IeJZ0Z/
Mewn digwyddiad yn y Senedd i hybu gwlân Cymreig, cwrddais i â Mair Jones o Gilybebyll a chlywed am ei gwaith gydag Inswleiddio Gwlân Cymru sy’n cefnogi cynhyrchwyr gwlân Cymreig a datgarboneiddio. Hefyd nes i gefnogi galwadau ymgyrch #WarmThisWinter Climate Cymru i sicrhau mwy o gefnogaeth i’r rhai sy’n wynebu tlodi tanwydd a gweithredu ar insiwleiddio a datblygu ynni adnewyddadwy. Nodais hefyd #DiwrnodCOPDyByd gydag Asthma+Lung UK Cymru.
Nôl yn Abertawe cwrddais i â grŵp o bobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan Prosicet Bloom Barnardos Cymru i drafod eu profiadau fel rhan o’m gwaith gyda Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.
Ar ddyddd Gwener cynhaliais gymhorthfa cymunedol yng Nghanolfan Phoenix, Townhill i helpu trigolion lleol gyda'u pryderon a a cwrdd â'r Cydlynydd Ardal Leol Bethan McGregor a SCCH Sam Butler.
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)