Mae Sioned Williams AS wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn sgil oedi pedair blynedd i’r ddeddfwriaeth i wella bysiau
Yn ystod Mis Dal y Bws, mae'r Aelod Seneddol dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams AS, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth am yr oedi difrifol i'r Bil Bysiau a addawyd.
Nod y Bil Bysiau yw gwrthdroi'r fframwaith dadreoleiddio y mae gwasanaethau bysiau yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd, a rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau ar gyfer eu cymunedau.
Er bod y Bil Gwasanaethau Bws (Cymru) wedi'i gyflwyno'n wreiddiol yn 2020, cafodd ei dynnu'n ôl gan y Llywodraeth yn sgil y pandemig. Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn newydd ar ddiwygio llywodraethiant gwasanaethau bysiau, ac mae wedi bod yn addo gweithredu’n ddeddfwriaethol ers hynny.
Er mai dim ond ym mis Gorffennaf y daeth y Llywodraeth newydd i rym yn San Steffan, mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DG eisoes wedi gosod y sylfaen ar gyfer masnachfreinio bysiau a gwasanaethau bysiau a weithredir gan awdurdodau lleol yn Lloegr, gyda deddfwriaeth eisoes wedi'i gosod gerbron Tŷ'r Cyffredin.
Mae'r oedi yng Nghymru wedi achosi i Ms Williams i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates AS, i ofyn am: yr oedi yn y Bil Bysiau; a fu cynnydd o ran adfer nifer y teithwyr ers y pandemig – elfen allweddol yn yr anawsterau sy'n wynebu gweithredwyr bysiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf; y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i hyrwyddo teithio ar fysiau yn ystod Mis Dal y Bws, a; sicrwydd ynghylch dyfodol cynlluniau tocynnau rhad ar fysiau.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae'n brofiad sy'n cael ei rannu gan lawer o ddefnyddwyr bysiau - mae eich bws yn hwyr, rydych chi'n aros yn amyneddgar, weithiau nid yw byth yn troi lan, neu o'r diwedd rydych chi'n gweld bws ar y gorwel ond nid dyna'r un rydych chi ei eisiau. Rwyf wedi cael etholwyr yn dweud wrthyf eu bod wedi cael eu gadael yn sownd filltiroedd o'u cartrefi ac wedi gorfod defnyddio tacsis drud i fynd adre yn ddiogel. Mae llwybrau bws eraill wedi cael eu canslo, sy'n golygu bod cyrraedd yr ysgol neu'r gwaith yn anodd iawn.
“Ar ôl blynyddoedd o aros, gall defnyddwyr bysiau Cymru weld Llywodraeth Lafur o'r diwedd yn cyflwyno deddfwriaeth i wella gwasanaethau bysiau, ond Llywodraeth Lafur y DG y honno sy'n cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer Lloegr yn unig. Bydd yn rhaid i ni yma yngh Nghymru aros tan y flwyddyn nesaf.”
“Nid yw hyn yn ddigon da. Mae bysiau'n wasanaethau hanfodol sy'n cyfrannu'n enfawr at lewyrch, iechyd a lles fy etholwyr, gyda llawer yn dibynnu ar fysiau ar gyfer addysg, cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae defnyddwyr bysiau ledled Cymru wedi aros yn ddigon hir ac yn methu fforddio mwy o oedi.”