Rwy'n hynod o grac y bydd tref Pontardawe yn cael ei gadael heb fanc yn dilyn penderfyniad Lloyds i gau eu cangen ym mis Tachwedd. Hwn fy manc lleol ac rwy'n gwybod bod defnydd mawr ohono! Bydd cau'r banc yn gadael bwlch enfawr o ran gwasanaethau bancio yng Nghwm Tawe.
Dwi'n gwybod bod angen banc go iawn ar fusnesau ac ar drigolion lleol - dyw nifer ohonyn nhw ddim yn bancio ar-lein. Mae sicrhau ein bod yn cadw'r gallu i brynu a gwerthu gydag arian parod yn ein cymunedau yn fater o degwch a chynhwysiant.
Er enghraifft fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd ar Anableddau Dysgu, rwyf wedi bod yn cefnogi ymgyrch Mencap i sicrhau y gall pobl ddefnyddio arian parod i dalu am nwyddau a gwasanaethau. Rwyf wedi clywed gan lawer o bobl ledled Cymru nad ydynt yn gallu defnyddio bancio ar-lein, na defnyddio cardiau debyd neu gredyd, ond mae ganddynt y gallu i ddefnyddio arian parod, ac mae hyn yn rhan bwysig o'u hannibyniaeth.
Er mwyn i fusnesau bach allu derbyn arian parod, maen nhw angen gwasanaethau sydd gerllaw er mwyn ei fancio. Mae banciau felly yn golygu mwy i gymuned na dim ond lle sy'n trin a tharfod eu harian - maen nhw'n galluogi llif arian drwy gymuned.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
14.03.25 - Ymateb Lloyds ar gau banc Pontardawe yn “hynod siomedig”
25.02.25 - Link yn cytuno i ailedrych ar y penderfyniad asesu mynediad arian parod gwreiddiol
20.02.25 - Y banc olaf yng Nghwm Tawe - Sioned Williams AS (Cymraeg)
13.02.25 - Teimladau y cyhoedd yn “hynod gryf” ynghylch cau banc Pontardawe
04.02.25 - Cwestiwn i'r Prif Weinidog
31.01.25 - Dwi wedi bod mas ym Mhontardaweyn clywed gan bobl leol.
31.01.25 - Sylw yn y wasg i'r mater pwysig hwn
30.01.25 - Galw cyfarfod cyhoeddus dros gau banc
Darllenwch fwy yma : Galw cyfarfod cyhoeddus dros gau banc - Sioned Williams AS (Cymraeg)
29.01.25 - Dwi wedi creu deiseb, llofnodwch yma:
https://www.sionedwilliams.cymru/banc_lloyds