Llafur yn ‘dileu’ galwadau Plaid Cymru i weithredu taliad plant i daclo tlodi plant

Cyhoeddodd Plaid Cymru daliad plant uniongyrchol i fynd i'r afael â thlodi plant yn eu Cynhadledd Wanwyn yn Llandudno wythnos diwethaf

Sioned Williams MS is in conversation with someone over whose shoulder we can see Sioned. Behind Sioned is a banner showing that Plaid Cymru has been "100 years for Wales"

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod tlodi plant wedi cynyddu 2% i 31% yng Nghymru, y cynnydd uchaf o holl genhedloedd y DU.

Fodd bynnag, cyn dadl Plaid Cymru yn y Senedd ar Ebrill 2il 2025, lle byddant yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu taliad plant, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dileu'r galwadau yn eu gwelliant i'r cynnig gwreiddiol ar dlodi plant.

Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio unwaith eto ar 'ymrwymiad... i ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban i ddeall Taliad Plant yr Alban yn well a sut mae'n gweithio' er bod hyn wedi bod yn destun trafodaeth ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams, wedi beirniadu penderfyniad y Llywodraeth i ddileu'r alwad, gan gyhuddo Llafur o 'oedi' a 'gwrthod cymryd camau uniongyrchol i fynd i'r afael â thlodi plant' gan ei alw'n 'staen cenedlaethol'.

Daw hyn yn yr un wythnos ag y mae Llywodraeth Lafur y DU wedi dewis torri yn agos i £5 biliwn mewn gwariant lles, penderfyniad a fydd yn gwthio 50,000 o blant i dlodi ledled Cymru a Lloegr.

Cyhoeddodd Plaid Cymru daliad plant uniongyrchol i fynd i'r afael â thlodi plant yn eu Cynhadledd Wanwyn yn Llandudno wythnos diwethaf. Bydd y taliad yn 'cynyddu cefnogaeth trwy roi arian ym mhocedi'r bobl dlotaf yn ein cenedl'.

Mae cynllun tebyg yn yr Alban wedi cael effaith drawsnewidiol ar dlodi plant, gan helpu'r Alban i fod yr unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i lefelau tlodi plant ostwng.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS:

"Mae Llafur yn methu ein plant a'n pobl ifanc, fel y mae ffigyrau'r Llywodraeth a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos. Nid yn unig yw tlodi plant yn tyfu yng Nghymru, ond mae'n tyfu ar y gyfradd gyflymaf o holl wledydd y DU. Mae hyn yn ganlyniad o 25 mlynedd o ddiffyg gweithredu Llafur i fynd i'r afael â'r staen cenedlaethol, sef tlodi plant.

“Mae eu dewis i 'ddileu' galwadau Plaid Cymru i weithredu taliad plant yn enghraifft arall o'u hanfodlonrwydd i gymryd camau uniongyrchol i fynd i'r afael â thlodi plant. Pa mor hir y bydd Llafur yn fodlon dim ond siarad am y mater, wrth ystyried fod y camau sydd eu hangen yn amlwg ac yn llwyddiannus mewn llefydd eraill.

"Mae gan Blaid Cymru atebion real ac uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi plant. Mewn Llywodraeth byddwn yn cymryd camau i gefnogi'r 31% o blant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi ar hyn o bryd, sydd yn byw mewn aelwydydd sy'n cael trafferth dod a dau ben llinyn ynghyd, trwy weithredu taliad plant.

“Tra bod Llafur yn hapus i oedi, bydd Plaid Cymru yn gweithredu. Tra bod Llafur yn dewis torri bron i £5 biliwn mewn cefnogaeth i'r rhai mwyaf bregus, bydd Plaid Cymru yn cynyddu'r gefnogaeth drwy roi arian ym mhocedi'r bobl dlotaf yng Nghymru. Tra bod Llafur yn hapus i barhau â'r status quo, mae Plaid Cymru yn cynnig dechrau newydd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd