Yr AS lleol Sioned Williams yn ysgrifennu at M&S a'r Cyngor ynghylch y bwriad i gau siop
Mae Sioned Williams AS, y mae ei swyddfa etholaeth yng nghanol tref Castell-nedd, wedi ysgrifennu at Marks and Spencer am yr "effaith enfawr" y byddai cau eu siop yn ei chael ar y dref.
Yn ei llythyr, mae Ms Williams yn tynnu sylw at anghysondeb rhwng y llythyr a dderbyniodd gan Marks and Spencer yn nodi mai gostyngiad mewn ffigurau gwerthiant yw'r rheswm y tu ôl i'r cynnig, a chadarnhad ar wahân y mae hi wedi'i gael bod siop Castell-nedd yn cyrraedd ei ffigurau targed - ac yn aml yn rhagori arnynt - fel mater o drefn.
Mae Ms Williams hefyd wedi gofyn am gadarnhad a yw opsiynau eraill yn cael eu hystyried a fyddai'n cynnal presenoldeb y brand hwn yn y dref, a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu cyflogaeth staff pe bai'r cynnig yn mynd yn ei flaen.
Ers postio'r newyddion am y bwriad i gau'r siop ar ei thudalen Facebook, mae Ms Williams wedi derbyn cannoedd o sylwadau, gydag etholwyr yn dweud mai dyma’r "newyddion gwaethaf posibl", a’i fod "yn niweidiol i siopau annibynnol llai", gyda channoedd yn rhagor yn rhannu'r neges.
Mae swyddfa etholaeth Sioned Williams yn Stryd Alfred dafliad carreg o'r siop, ac mae Ms Williams yn dweud y bydd cau'r siop yn effeithio'n uniongyrchol ar ei staff hefyd.
Mae Ms Williams hefyd wedi ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ganfod a ydynt mewn trafodaethau gyda'r cwmni, a ydynt wedi estyn allan at berchnogion siopau eraill yng nghanol y dref i dawelu eu meddyliau, ac i ofyn am gadarnhad a oes strategaeth canol tref yn bodoli ar gyfer Castell-nedd, a chanol trefi allweddol eraill yn eu cylch gwaith, gan gynnwys Port Talbot, Pontardawe, Llansawel a Glyn-nedd.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae gan siop Marks and Spencer yng Nghastell-nedd hanes hir o wasanaethu pobl yr ardal hon, ac ni ellir gorbwysleisio ei phwysigrwydd i'r dref. Byddai cau'r siop yn ergyd drom i ganol y dref, a bydd yr effaith yn cael ei theimlo gan yr holl fusnesau eraill yno, heb sôn am y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghastell-nedd, a'r rhai sy'n ymweld â'r dref.
“Er fy mod yn deall bod yr amgylchedd ar gyfer manwerthu yn heriol tu hwnt, fel y bydd unrhyw berson lleol yn dweud wrthych chi, mae'r siop hon wastad yn brysur - yn enwedig y neuadd fwyd. Rhaid i ni fod yn hyderus bod pob opsiwn arall wedi cael ei archwilio, yn enwedig o ran sgyrsiau gyda'r cyngor lleol. Am y rheswm hwn, rydw i wedi ysgrifennu at Marks and Spencer a'r Cyngor i ofyn am ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r broses yn dilyn y cyhoeddiad ac am y cymorth a fydd ar gael i staff pe bai'r siop yn cau.
“Rydw i wedi ymgyrchu ers amser maith am ganol tref ffyniannus yng Nghastell-nedd, a dyna pam mae'n bwysig herio'r cynnig hwn pan nad oes gennym sicrwydd eto bod pob opsiwn wedi'i archwilio.
“Yn ogystal, rydw i am ddeall strategaeth y Cyngor ar gyfer Castell-nedd, yn ogystal ag ar gyfer canol trefi eraill yn yr awdurdod lleol, a byddwn yn awyddus i gyfarfod â swyddogion i drafod y mater hwn a materion perthnasol eraill ymhellach.”