“Mae clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ar yr hyn sy’n gweithio, a’r hyn sydd angen ei newid, mor hanfodol” – Sioned Williams AS
Mae Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, yn noddi digwyddiad yn y Senedd, a gynhelir gan Gomisiynydd Plant Cymru, i geisio rhannu profiadau pobl ifanc sydd mewn gofal.
Bydd y digwyddiad, o'r enw 'Lwc', ar ddydd Mawrth 12 Tachwedd, yn gweld ystafell fyw ac ystafell wely yn cael eu hadeiladu yng nghyntedd y Senedd, gyda gwrthrychau â negeseuon arnynt gan bobl ifanc mewn gofal, gan gynnwys aelodau o Grŵp Hope - grŵp hawliau merched yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae Ms Williams, sydd â'i swyddfa yng Nghastell-nedd, wedi galw’r digwyddiad yn "hollbwysig" ar gyfer rhannu stori pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy'n aml yn teimlo "bod neb yn gwrando arnynt".
Mae'r profiadau sy'n cael eu cyfathrebu drwy'r arddangosfa yn cynnwys plant yn teimlo'n ddigefnogaeth ac yn hunan-niweidio, yn teimlo eu bod wedi'u hynysu rhag gwneud penderfyniadau am eu gofal eu hunain, ac yn gweld eu heiddo wedi'u pacio mewn bagiau sbwriel heb fod ganddynt unrhyw lais yn y mater.
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i "wrando ar yr hyn y mae plant yn ei ddweud yn yr arddangosfa hon" fel bod y negeseuon yn "dylanwadu ar yr adolygiad arfaethedig i'r codau ymarfer presennol i gynghorau."
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae'n fraint wirioneddol cael noddi'r arddangosfa unigryw a phwysig hon heddiw sy'n ceisio dod â phrofiadau aelodau Grŵp Hope yn fyw - grŵp hawliau merched yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd am i ni glywed eu barn a rhannu eu profiad o ofal maeth fel bod y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud am eu hanghenion a'r cymorth sydd ar gael i blant sy'n derbyn gofal.
“Rwy'n byw ac yn cynrychioli Castell-nedd Port Talbot yn y Senedd, ac felly pan ofynnwyd i mi fod yn rhan o ddod â'r digwyddiad hwn i'r Senedd, bachais ar y cyfle.
“Un o ymchwiliadau pwyllgorau'r Senedd rwyf wedi bod yn rhan ohonynt, ac sydd wedi effeithio fwyaf arna i, oedd yr ymchwiliad ar ddiwygio radical gwasanaethau gofal i blant a phobl ifanc. Cynhlaion ni ymchwiliad hir a manwl, gan roi lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc wrth ganol ein gwaith. Roedd yr ymateb a gawsom gan Lywodraeth Cymru yn siomedig, ac rwy'n gwybod bod llawer o'r bobl ifanc yr oeddem wedi siarad â nhw yn teimlo nad oedd eu lleisiau wedi cael eu clywed.
“Dyna pam mae dod at ein gilydd fel hyn, i glywed gan bobl ifanc, drwy gyfrwng ffyrdd newydd o gyfleu eu barn ar yr hyn sy'n gweithio, a'r hyn sydd angen ei newid, mor hanfodol.”