Sioned Williams AS yn hwyluso ymweliad gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor i geisio sicrhau buddsoddiad ar gyfer y farchnad hanesyddol
Yn ddiweddar, croesawodd Sioned Williams AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol i Farchnad Castell-nedd, ar ôl cynnig gwahoddiad i Lywodraeth Cymru i ymweld ym mis Rhagfyr y llynedd.
Daeth y cais yn sgil arolwg gan Ms Williams i ddyfodol canol tref Castell-nedd, a gafodd bron i 400 o ymatebion, gan ddatgelu faint mae pobl leol yn gwerthfawrogi eu marchnad hanesyddol, er bod yna bryderon am ei dyfodol.
Roedd Ms Williams hefyd wedi bod mewn gohebiaeth gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â'u cynlluniau ar gyfer dyfodol y farchnad.
Ar ddydd Iau 3 Ebrill, aeth Ms Williams a Mandy Gunter, Cadeirydd y Gymdeithas Masnachwyr, ag Ysgrifennydd y Cabinet Jayne Bryant, ei swyddogion, ynghyd ag Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a swyddogion y cyngor ar daith o amgylch y farchnad i gwrdd â masnachwyr, clywed eu pryderon a chael eu barn am ba welliannau oedd eu hangen.
Yn ystod yr ymweliad, cadarnhaodd y Cyngor ei ymrwymiad i barhau i weithio gyda masnachwyr a busnesau eraill yng nghanol y dref i ddatblygu cynllun ar gyfer y farchnad, a phwysodd Ms Williams ar Ysgrifennydd y Cabinet am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gyflawni'r cynllun hwnnw.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru:
“Mae Marchnad Castell-nedd nid yn unig yn hanesyddol arwyddocaol, ond mae'n chwarae rhan mor bwysig wrth ddenu nifer o ymwelwyr i ganol y dref. Rwy'n gwybod faint mae'n cael ei werthfawrogi gan y gymuned, a faint sy'n teimlo y gallai gyfrannu hyd yn oed mwy i ffyniant Castell-nedd a'i fusnesau lleol.
“Dyna pam roeddwn i'n teimlo ei bod mor bwysig cael Llywodraeth Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a masnachwyr i gyd at ei gilydd fel bod pawb yn ymwybodol o'r hyn sydd angen ei wneud, beth y gellir ei wneud, ac – yn hollbwysig – sut rydyn ni'n gwneud i hynny ddigwydd.
“Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ddod i Gastell-nedd yn dilyn fy ngwahoddiad ac roeddwn yn falch o glywed bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn y broses o weithio gyda masnachwyr, perchnogion busnesau cyfagos, a phobl sy'n siopa yn y farchnad i ddatblygu cynllun.
“Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad yn ogystal â bwriad, a gyda awdurdodau lleol o dan bwysau ariannol sylweddol, mae angen gwneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd y farchnad a pham mae'n rhaid sicrhau ei dyfodol a datblygu ei photensial. Mae'r farchnad yn rhan ganolog o hunaniaeth y dref, ac rwyf wedi bod yn galw ers blynyddoedd am gyllid i fod ar gael i wireddu ei llawn botensial.
“Byddaf yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru i gefnogi a dathlu'r cyfraniad y mae Marchnad Castell-nedd yn ei wneud i'r economi leol ac i fywiogrwydd canol y dref.”