Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau cythryblus yng Ngorseinon a’r cyffiniau yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, cyfarfu yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, â’r Tîm Plismona Bro lleol yn ddiweddar i drafod yr ymdrechion parhaus i warchod a chefnogi’r gymuned leol.
Roedd Sioned yn falch o glywed bod yr heddlu a sefydliadau eraill wedi cymryd rhai camau sylweddol i ymgysylltu â phobl ifanc lleol a gwella gwasanaethau allgymorth ac ieuenctid. Yn arwyddocaol, gofynnwyd i bobl ifanc yn eu harddegau pa fath o ddarpariaeth yr hoffent ei gweld yn yr ardal a arweiniodd at greu “The Barn” sef lleoliad diogel, dan-do lle gallant gymdeithasu.
Dywedodd Sioned:
“Wrth ymateb i bryderon a godwyd gan drigolion, gofynnais i’r heddlu pa fesurau oedd yn cael eu cymryd i geisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Gorseinon. Roedd yn dda gweld mesurau cadarnhaol a gweithredol yn cael eu cymryd i amddiffyn y gymuned leol drwy ymgysylltu â thrigolion, busnesau lleol a’r gymuned ehangach, megis profi fel goleuadau ychwanegol yng Ngerddi Argyll a datblygiad strategaeth batrôl strategol.
“Mae pwysau staffio wedi bod yn broblem i’r heddlu lleol, ond maen nhw’n dweud bod y rhain yn cael sylw ac yn credu bod eu cyfarfodydd strategaeth misol gyda rhanddeiliaid perthnasol fel y gwasanaeth tân a gweithwyr ieuenctid wedi bod yn fuddiol iawn. Fodd bynnag, mae’r heddlu’n gynyddol yn gorfod delio â materion sy’n deillio o ddiffyg darpariaeth iechyd meddwl, sy’n rhoi straen ar eu hadnoddau.
“Mae datblygu gwasanaethau ieuenctid, creu mwy o gyfleoedd economaidd i’n pobl ifanc a buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol yn allweddol i gynnal lles ein pobl ifanc, a fydd yn ei dro yn lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rwy’n falch felly, trwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru, y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc ac yn mynd i’r afael â phroblemau sy’n deillio o amddifadedd cymdeithasol.”