Senedd yn pleidleisio dros fwy o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl

“Mae gofalwyr di-dâl yn arbed £10 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, ond mae angen gwneud mwy o sicrhau bod eu hawliau statudol ar gael cymorth yn cael eu cynnal” – Sioned Williams AS

Mae’r Senedd heddiw (dydd Mercher 5 Chwefror 2025) wedi pleidleisio o blaid mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl.

Cyflwynodd Sioned Williams AS, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, gynnig ar gyfer Bil ar sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl, yn dilyn ymchwil gan Carers Wales a ddangosodd nad yw gofalwyr yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Er bod gan bob gofalwr hawl gyfreithiol i Asesiad Anghenion Gofalwr, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae nifer o adroddiadau wedi dangos mai dim ond rhwng 0.3% ac 8% o ofalwyr sydd angen asesiad sy’n cael un.

Croesawodd Rob Simkins, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Carers Wales y ddadl gan ddweud “ni all y newidiadau y mae angen i ofalwyr di-dâl eu gweld ddigwydd yn ddigon cyflym.”

Pasiwyd y cynnig o fwyafrif mawr sy’n dangos lefel y gefnogaeth i fesurau i roi’r Ddeddf ar waith.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae gofalwyr di-dâl yn arbed £10 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru trwy ddarparu gofal a fyddai fel arall yn cael ei godi gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae eu gwerth i'r rhai y maent yn darparu gofal ar eu cyfer yn anfesuradwy.

“Mewn sawl ffordd, roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn torri tir newydd wrth ymgorffori hawliau gofalwyr mewn cyfraith. Ond yn anffodus nid yw’r rhethreg yn cyd-fynd â’r realiti ac nid oes digon o’n gofalwyr yn elwa ar yr hawliau a roddwyd iddynt.

“Byddai’r bil a gynigiais yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r llu o fethiannau presennol ynghylch gweithredu Deddf 2014 sy’n cael eu hamlygu gan dystiolaeth mewn nifer o adroddiadau.”

Dywedodd Rob Simkins, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Carers Wales:

“Rydym yn croesawu’r ddadl hon a’r gydnabyddiaeth nad yw llawer gormod o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gweld eu hawliau o dan y Ddeddf yn cael eu cyflawni, fel y dangoswyd yn ein hadroddiad Dilyn y Ddeddf a ryddhawyd y llynedd. Er bod gwaith da yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r materion hyn, ni all y newidiadau y mae angen i ofalwyr di-dâl eu gweld ddigwydd yn ddigon cyflym.

“Rydym yn gobeithio y gall dadl heddiw helpu pawb i ddwyshau eu hymdrechion a chyfeirio adnoddau at ddarparu gwell cymorth i’r cannoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae arnom ni ddyled iddyn nhw i wneud hyn yn well.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd