Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi croesawu’r penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw i ail-agor cwest llawn i drychineb glofaol Glofa Gleision.
Daw hyn ar ôl ymgyrch hir, gyda chefnogaeth Sioned Williams MS, gan y rhai yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y drasiedi a hawliodd fywydau pedwar dyn yn 2011.
Ym mis Hydref eleni cynhaliwyd protest yng Nghilybebyll, lle ymunodd Sioned Williams â theuluoedd y dioddefwyr i annog Crwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynwyd iddo nôl ym mis Ebrill 2022. Roedd y dystiolaeth honno wedi awgrymu y gallai blynyddoedd o fethiannau honedig gan y cyrff rheoleiddio fod wedi arwain at weithredwyr yn gweithio glo yn anghyfreithlon ac at fethiant i’w gofnodi yn y cynlluniau mwyngloddio.
Ymunodd Sioned Williams heddiw â’r teuluoedd i glywed y cyhoeddiad tu allan i Lys y Crwner.
Dywedodd Sioned Williams:
“Er gwaethaf yr amser hurt y mae wedi’i gymryd i gyrraedd y pwynt hwn, rwy’n croesawu penderfyniad Crwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot heddiw i gynnal cwest llawn i drychineb glofa Gleision.
“Ers lawer rhy hir, mae’r teuluoedd wedi cael eu gwthio i’r cyrion, ac heb dderbyn atebion i’w cwestiynau. Er na fydd penderfyniad heddiw yn dod â’r rhai a gollodd eu bywydau yn drasig yn 2011 yn ôl, rwy’n gobeithio y bydd cwest llawn yn rhoi’r atebion hynny.
“Ym mis Ebrill, ymunais â’r brotest a gynhaliwyd gan deuluoedd y dioddefwyr y tu allan i Neuadd y Ddinas yn Abertawe pan gyflwynwyd yr achos am gwest llawn mewn dogfen i’r Crwner, ac ym mis Hydref ymunais â nhw mewn protest yng Nghilybebyll i annog y Crwner i ymateb i'r dystiolaeth honno. Mae’r penderfyniad heddiw i ail-agor cwest yn rhoi rhywfaint o obaith y bydd dymuniadau’r teuluoedd yn cael eu clywed o’r diwedd. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r trychineb ofnadwy hwn, a’r gymuned gyfan, yn haeddu atebion ynghylch yr hyn a arweiniodd at farwolaethau Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins a chael gwybod a ellid bod wedi atal eu marwolaethau.”
Ar 15 Medi 2011, yn dilyn ffrwydro arferol yng Nglofa Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe, gorlifodd miloedd o alwyni o ddŵr i'r twnnel lle'r oedd saith glöwr yn gweithio. Er bod tri o'r saith wedi gallu dianc i ddiogelwch, ni lwyddodd y pedwar glöwr arall ddianc. Er gwaethaf ymdrechion gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Achub Mwynfeydd, cadarnhawyd y diwrnod canlynol fod Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins wedi colli eu bywydau.
Fe ddilynodd ymchwiliadau ac fe gyflwynwyd cyhuddiadau o ddynladdiad yn erbyn rheolwr y safle ac MNS Mining Ltd., ac fe gafnwyd y ddau yn ddiweddarach yn ddieuog o bob cyhuddiad.
Er hyn, roedd cwestiynau'n parhau am weithrediad y pwll dros nifer o flynyddoedd a beth oedd wedi arwain at y trychineb. Amlygwyd hyn yn dilyn ymchwiliad annibynnol manwl a nododd nifer o faterion nad edrychwyd arnynt yn flaenorol.
Mae teuluoedd y pedwar dyn a gollodd eu bywydau yn Nhrychineb Gleision, perchnogion y pwll glo a chynrychiolwyr etholedig wedi dadlau ers tro bod y dystiolaeth hon yn pwysleisio ymhellach yr angen am gwest llawn, a gafodd ei agor yn wreiddiol ac yna ei ohirio yn 2013.
Ym mis Hydref 2022, clywodd y Crwner ddadleuon cyfreithiol gan y bargyfreithiwr a gyflogwyd i gynrychioli'r rhai oedd yn galw arno i agor cwest llawn.