Wythnos fer wythnos diwethaf oherwydd Gŵyl y Banc ond un brysur serch hynny!
Fe addawodd Keir Starmer y byddai'n dileu ffioedd dysgu myfyrwyr pe bai'n dod yn Brif Weinidog ond mae e bellach wedi gollwng yr addewid yma. Gofynnais a yw Llywodraeth Cymru'n cefnogi penderfyniad y Blaid Lafur i adael myfyrwyr i lawr? https://fb.watch/kpPt80cuJP/
Siaradais ar y rhaglen Sharp End yn gylch sut mae cynghorau dan arweiniad Plaid yn arwain ar fentrau sy’n dod â phobl i ganol trefi. Mae angen efelychu hyn yn genedlaethol fel bod pob cymuned yng Nghymru yn elwa. Dwi’n yn credu bod canol trefi yn hanfodol i'n cymunedau - yng Nghastell-nedd, Pen-y-bont ar Ogwr ac ar draws Cymru. Gwyliwch yma: Sharp End, May 2nd | Wales Programmes (itv.com)
Amodau gwaith staff ein prifysgolion yw amodau dysgu'r myfyrwyr. Mae UCU Wales wedi galw bwriad y sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i leihau cyflogau staff sy’n cymryd rhan yn y boicot marcio ac asesu yn gosbol, yn ymosodol ac yn anghymesur. Fe alwais yr wythnos hon ar y Gweinidog Addysg i annog is-gangellorion Cymru i ailfeddwl, ac i'r Universities and Colleges Employers Association ddychwelyd at y bwrdd negodi. https://fb.watch/kpQohnTO3C/
Cysylltodd Lisa, myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe sy'n dod o Wcráin, â mi oherwydd doedd hi heb glywed a oedd ei fisa yn mynd i gael ei ymestyn er mwyn caniatáu iddi barhau â'i hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Codais y mater yn y Senedd ac roedd yn wych clywed bod Lisa newydd gael gwybod bod ei fisa i fyw ac astudio yn y DU wedi’i ymestyn. Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â Lisa yn flaenorol. Mae hi'n fyfyrwraig weithgar sy’n hapus iawn i fod yn byw yn Abertawe, yn enwedig o ystyried ei hangerdd am gerddi Dylan Thomas.
Roedd yn gwbl annheg i’r DU adael Lisa yn y sefyllfa ansicr hon. Mae angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod croeso yma i bob ffoadur o Wcráin a gwledydd eraill sy’n wynebu rhyfel neu drychineb, a sicrhau nad oes rhaid iddynt wynebu unrhyw oedi wrth glywed yn ôl am eu cais. Rwyf hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau nad yw myfyrwyr fel Lisa yn gorfod dioddef mwy o bryder ac ansicrwydd am eu dyfodol wrth iddynt geisio parhau â’u hastudiaethau yng Nghymru. Mae Cymru yn genedl o noddfa ac rwy’n falch ein bod yn croesawu Lisa i’w chartref newydd.
Sioned, Daniel a Lisa.