Prydau ysgol am ddim i blant cynradd yng Nghymru yn dechrau mis Medi

Diolch i Blaid Cymru fe fydd prydau ysgol am ddim i blant ysgol cynradd yng Nghymru yn dechrau mis Medi.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams:
"Mae hwn yn gam enfawr ymlaen yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, ac yn un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynifer o blant.
"Roedd prydau ysgol am ddim drwyddi draw ar gyfer plant ysgolion cynradd yn brif addewid etholiadol i Blaid Cymru yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ac yn un oedd yn flaenoriaeth gennym wrth helpu i ddatblygu’r Cytundeb Cydweithio.
"Tra fy mod i’n deall y bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn dechrau eu cyflwyno fis Medi yma, o ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd, rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol nad ydyn nhw ar y trywydd iawn eto yn cael eu cefnogi i ymdrechu’n wirioneddol rhwng nawr a dechrau’r ysgol ym mis Medi, ac yn y misoedd sy’n dilyn wrth i’r polisi gael ei gyflwyno ar gyfer plant hŷn, fel bod prydau am ddim yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosib i gynifer o’n plant â phosib.
"Gallai’r polisi hwn olygu’r gwahaniaeth rhwng plentyn yn llwgu neu beidio – dyna pa mor bwysig yw e.
"Mae ein diolch twymgalon yn mynd i’r rheiny sy’n gweithio yn yr awdurdodau lleol ledled Cymru – staff arlwyo, y rheiny sy’n dylifro ac yn cydlynu’r cyflwyno – wrth gydnabod pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cael hyn yn iawn er lles ein plant."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd