Colofn: Eisteddfod yr Urdd 2025

Mae Sioned Williams AS yn ysgrifennu am Eisteddfod yr Urdd 2025 ‘Dur a Môr’ ar gyfer y Ponty Mag

Sioned Williams MS is holding a calendar, the sales of which will raise money for the 2025 Urdd Eisteddfod

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn rhifyn Tachwedd 2024 o'r Ponty Mag.

 

Mae'n wych bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Gastell-nedd Port Talbot y flwyddyn nesaf!

Mae Parc Margam yn lleoliad bendigedig ac efallai y bydd llawer ohonoch yn cofio’r tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yno yn 2003.

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop ac mae’n ddathliad o’r Gymraeg, ein diwylliant a thalent anhygoel ein pobl ifanc.

Yn ogystal â’r cystadlaethau, bydd yna hefyd weithgareddau arbennig fel y GwyddonLe sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Abertawe.

Mae’r Urdd yn dibynnu ar godi arian yn lleol pan fydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal, ac mae pwyllgor codi arian Pontardawe yn gwneud gwaith anhygoel - o drefnu digwyddiadau i werthu calendrau!

Diolchais iddynt am eu gwaith mewn araith yn y Senedd a chanmol yr Urdd am estyn mas i bob ysgol leol i sicrhau bod pawb yn gallu chwarae rhan yn yr Eisteddfod.

Gallwch weld popeth sy’n digwydd drwy chwilio am Eisteddfod Dur a Môr Parc Margam a’r Fro 2025 ar Facebook.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd