Nid Jyst i Fechgyn y mae gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, oedd y neges mewn digwyddiad gyrfaoedd amgen i ferched yn y DVLA yn Abertawe. Roedd Sioned yn falch o gael ei gwahodd gan brif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, Chwarae Teg mewn partneriaeth â’r DVLA i fynychu digwyddiad Nid yn Unig i Fechgyn ar 14 Hydref. Nod Nid yn Unig i Fechgyn yw rhoi’r cyfle i ferched ym mlynyddoedd 8 a 9, o ysgolion lleol a wahoddwyd, i ddarganfod mwy am y gwahanol opsiynau gyrfa cyn iddynt ddewis eu pynciau TGAU.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn swyddfeydd y DVLA, un o gyflogwyr fwyaf De Cymru, sydd yn gyfrifol am gynnal y cofrestriad a thrwyddedu gyrwyr Prydain. Maent yn frwdfrydig am annog merched mewn i bynciau GTPM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg) ac wedi rhedeg rhaglen GTPM arweinir gan wirfoddolwyr ers 2014 er mwyn hyrwyddo pynciau GTPM i sefydliadau llawr gwlad ag ysgolion yng Nghymru. Roedd y ffair gyrfaoedd TGCh yn ddathliad o ddau ddigwyddiad ymwybyddiaeth sef Diwrnod Ada Lovelace a Diwrnod Rhyngwladol y Ferch.
Wnaeth Sioned ymuno â disgyblion Ysgol Gellifedw mynychu’r digwyddiad a oedd yn canolbwyntio'n arbennig ar yrfaoedd mewn TGCh. Ar ddiwrnod y digwyddiad, aeth y disgyblion ar daith o gwmpas lle gwaith y DVLA er mwyn cael profiad o weithio yn y diwydiant TGCh. Cafon nhw’r cyfle i gwrdd â siarad efo menywod sydd yn fodelau rôl o sawl llwybr gyrfa yn TGCh ac i drio gweithgareddau ‘trio crefft’.
Mae adroddiad “Profiadau Merched Ifanc o Gyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd yng Nghymru”, a gyhoeddwyd mis yma gan Chwarae Teg, yn astudio’r darlun cyfredol o wasanaethau cyngor gyrfaoedd i fenywod ifanc yng Nghymru. Er mawr siom, mae’n dangos bod gormod o ddewisiadau gyrfa yn dal i gael eu dylanwadu gan stereoteipiau rhywedd hirsefydlog - yn arwain i arwahanu rhywedd yn y gweithle a’r bwlch cyflog ar sail rhywedd parhaus sydd yng Nghymru.
Mae Sioned yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn helpu i hysbysu ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol o ferched ifanc i archwilio gyrfaoedd nad ydynt yn draddodiadol yn cael eu hystyried yn rhai mor agored i fenywod.