Hawliau Anabledd

Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, rwyf yn siarad allan fel rhan o'r ymgyrch 'Stolen Lives' yn erbyn tor-hawliau dynol, ac yn ymladd i sicrhau bod hawliau pobl anabl blaenaf mewn meddyliau'r rhai sy’n neud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio arnyn nhw.

sioned and others holding signs

Rwyf hefyd yn aelod o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd sydd yn gweithio i fynd i'r afael â materion cydraddoldeb anabledd allweddol ar gyfer pob nam, gan gynnwys gweithredu'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'r hawl i Fyw'n Annibynnol.

Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges


17.04.25 - Cost uchel toriadau lles Llywodraeth Lafur y DG i Gymru


02.04.25 Senedd holds urgent debate on ‘callous’ welfare cuts - Nation Cymru


02.04.25 – Dadl Frys: Effaith diwygiadau lles diweddar y Canghellor


20.03.25 - Senedd Members denounce ‘devastating’ benefit cuts - Herald.Wales


06.03.25 - Mae gormod o bobl anabl yng Nghymru yn wynebu rhwystrau diangen o ran cael gwaith cyflogedig

Dyma ffocws adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono - siaradais â BBC Radio Cymru am pam mae angen chwalu’r rhwystrau yna ar gyfer pobl anabl sy’n medru ac eisiau gweithio. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma: https://senedd.wales/media/muygh1ah/cr-ld17039-w.pdf


05.03.25 - Dadl: Anghenion y gymuned fyddar

Gofynnais i Lywodraeth Cymru pryd y cawn ddiweddariad a allai sicrhau cynnydd a chyflawni'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y gymuned fyddar.

Gallwch ddarllen y cofnod llawn yma.


01.03.25 - Bore Coffi Dydd Gŵyl Dewi gyda Swansea City AFC Disabled Supporters' Association (DSA)

Dwi wastad yn cael amser mor hyfryd ym more coffi Swansea City Disabled Supporters Association-DSA. Gwisgon ni goch heddi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac fe gawson ni berfformiad arbennig gan Mal Pope. Clywson ni hefyd gan Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney am y cynlluniau i gael gwell ffocws ar bêl-droed anabledd.

Sioned at the coffee morning with other guests


18.02.25 - Sesiwn Holi ac Ateb wych gyda Anabledd Dysgu Cymru ac Engage to Change.

Diolch am y cwestiynau rhagorol am bobl ag anableddau dysgu a chyflogaeth.


04.12.24 - ‘Stolen Lives’

Gwnes i addewid, cyn belled fy mod yn y Senedd, na fyddaf yn rhoi'r gorau i ymgyrchu dros #StolenLives - y bobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig sy'n cael eu cadw'n amhriodol, ac yn groes i’w hawliau dynol, mewn lleoliadau iechyd meddwl.


03.12.24 - Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl 2024

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, roeddwn yn falch o fynychu digwyddiad i’w nodi  yn y Senedd, ond yn siomedig na roddodd Llywodraeth Cymru gyfle i’r Senedd drafod hawliau pobl anabl.


23.10.24 - Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: 'Cymdeithas heb arian parod?


02.10.24 - Dadl: Cyfle teg—Sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu byw'r bywyd o'u dewis


23.07.24 - Auditory Verbal UK

Yn ddiweddar cwrddais i â Auditory Verbal UK sy'n herio disgwyliadau o'r hyn y gall plant byddar ei gyflawni, trwy therapi Llafar Clywedol Roedd yn hyfryd sgwrsio gyda pobl ifanc a’u teuloedd i ddeall pam mae mynediad i gefnogaeth gynnar ac effeithiol yn hanfodol i bob plentyn byddar.

Sioned and people from Auditory Verbal UK


21.06.24 - Cymdeithas heb arian parod?

Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, ron i'n falch o siarad yn lansiad adroddiad Deisebau'r Senedd ar effaith gwasanaethau’n gwrthod derbyn arian parod. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu fel gall pawb gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae’n fater o gydraddoldeb.

Darllenwch yr adroddiad yma: https://senedd.wales/media/5rkhvwb3/cr-ld16541-w.pdf


19.06.24 - Wythnos Anabledd Dysgu

Roedd yn bleser noddi presenoldeb Mencap Cymru yn y Senedd yn ystod wythnos Anabledd Dysgu, gan godi ymwybyddiaeth am, a sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi.

sioned gyda grwp o Mencap Cymru


19.06.24 - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)


25.04.24 - Stolen Lives 

Mae hawliau dynol pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn cael eu tanseilio pan fyddant yn cael eu cadw ar gam mewn unedau neu ysbytai.Gofynnais i Lywodraeth Cymru pa gamau y byddant yn eu cymryd i ddod â’r anghydraddoldeb hwn i ben.

https://youtu.be/sdaCWsepJC4  


17.04.24 -  Protest ‘Cartrefi Nid Ysbytai’ 

Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, roeddwn yn falch iawn o siarad ym mhrotest Bywydau Wedi’u Dwyn o flaen y Senedd heddiw yn galw am Gartrefi Nid Ysbytai. Rhaid inni weld diwedd ar osod pobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth mewn ysbytai ac unedau, a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn eu cymunedau. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar yr anghyfiawnder hwn.


21.02.24 - Cefnogi Dysgwyr Ôl-16 sydd ag Anableddau Dysgu


24.01.24 - Datganiad: Mae 15 mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Paul Ridd


05.12.23 - Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl


03.10.23 - Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru)


27.09.23 - Plaid Cymru yn galw am welliannau i wneud safleoedd treftadaeth lleol yn fwy hygyrch


18.05.23 - Cefnogi hygyrchedd i bobl ag anableddau dysgu


03.04.23 - Galw i wneud y Senedd yn hygyrch i bobl ag epilepsi ffotosensitif 


24.02.23 - Galwadau am fwy o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol


11.01.23 - Gwasanaethau  asesu DSA i myfyrwyr anabl o Gymru


25.05.22 Sioned Williams yn galw am ‘weithredu brys’ i gryfhau hawliau plant anabl


30.11.21- Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl


COFRESTRWCH I DDERBYN DDIWEDDARIADAU

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd