Beirniadodd AS Gorllewin De Cymru, Sioned Williams, Lywodraeth Lafur Cymru heddiw am beidio â gwneud digon i fynd i’r afael â’r argyfwng presennol yn amseroedd aros deintyddiaeth y GIG, yn dilyn cyhoeddi adroddiad newydd a ddatgelodd “gwir raddfa’r argyfwng”.
Y llynedd, cynhaliodd AS Plaid Cymru Sioned Williams arolwg i brofiadau ei hetholwyr o ddefnyddio gwasanaethau deintyddol yn y GIG, lle bu i gannoedd o bobl gwyno am anawsterau o ran cael mynediad at wasanaethau deintyddol am ddim, ac amseroedd aros hir; fe gododd Sioned y materion hyn ar y pryd yn y Senedd mewn cwestiwn i’r Gweinidog Iechyd.
Datgelodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, nad yw’n glir faint o unigolion sy’n aros am driniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru, gan ei gwneud yn anodd darparu cymorth digonol yn yr ardaloedd sydd fwyaf eu hangen, ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw'r lefelau cyllid presennol yn ddigonol i ymdrin â'r ôl-groniad, ac i ystyried creu un rhestr aros ganolog ledled Cymru.
Dywedodd Sioned Williams:
“Mae’r darlun sydd wedi’i beintio yn adroddiad heddiw yn cyd-fynd yn llwyr â’r ymatebion y derbyniais y llynedd gan gannoedd o’m hetholwyr yng Ngorllewin De Cymru.
“Mae’r adroddiad yn rhoi darlun damniol o wasanaethau deintyddol ledled Cymru, ac o ddiffyg gweithredu Llywodraeth Lafur Cymru wrth ddelio â’r argyfwng hwn. Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn adleisio canfyddiadau adroddiad diweddar gan Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe a amlygodd fod 70% o bobl yn teimlo dan bwysau i dalu am ofal deintyddol preifat er mwyn iddynt allu cael apwyntiad, a bod llawer yn methu â chael mynediad i wasanaethau deintyddol y GIG, gan gynnwys menywod beichiog a phlant.
“Ni all fod yn deg y gall y cyfoethog neidio’r ciw drwy fynd yn breifat a chaiff pobl eu gadael heb wasanaethau digonol, neu heb apwyntiad o gwbl, ac nid wyf wedi fy mherswadio y bydd diwygio contractau Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn ddigonol ac ar unwaith. Rwy’n cefnogi galwad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd am ddiwygio radical i sicrhau dyfodol deintyddiaeth y GIG.”