Mewn araith i’r Senedd, disgrifiodd Sioned Williams AS ymateb yr Aelod Seneddol i doriadau lles Llafur fel un “di-chwaeth”
Mae Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, wedi galw sylwadau'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn "ddi-chwaeth ac amhriodol".
Mewn dadl ar berfformiad Llywodraeth Lafur Cymru, cyfeiriodd Ms Williams at araith Eluned Morgan i gefnogwyr Llafur ddydd Mawrth (6 Mai 2025), lle siaradodd Ms Morgan am berthynas Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DG, gan ei chymharu â'r perthnasau rhwng y cymeriadau yn y rhaglen gomedi boblogaidd.
Dywedodd Sioned Williams AS wrth y Senedd:
“Beth ar y ddaear oedd y cyfeiriadau di-chwaeth ac amhriodol yna i Gavin and Stacey? Cymharu anghytuno am benderfyniadau fel toriadau i les, sy'n llythrennol yn golygu bod pobl yn mynd i'r gwely yn oer, heb ddigon i fwyta, yn poeni am y biliau sy'n dod trwy'r drws, gyda rhaglen gomedi? Mae angen newid y sgript.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi sefyll nôl tra bod Llywodraeth Lafur pen arall yr M4 wedi cadw polisïau creulon y Ceidwadwyr fel y terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau, er gwaethaf gwybod yn iawn am y difrod dynol ac economaidd y mae'n ei achosi.
“Pam nad ydy Llafur yn mynnu cael y grymoedd sydd eu hangen, fel y rhai dros les, i sicrhau bod y Gymru decach y mae Lafur wastad yn honni eu bod am ei gweld yn gallu cael ei gwireddu.
“Mae Plaid Cymru'n barod i greu polisïau gwrth dlodi fel ein cynllun Cynnal, taliad plant trawsnewidiol, gan ddysgu o'r Alban, lle mae polisi tebyg eisoes yn codi degau o filoedd o blant mas o dlodi, achos mae angen inni ddewis llwybr gwahanol yng Nghymru os ydym am gyflawni'n dyletswydd i warchod a meithrin dyfodol ein cenedl. Mae effaith polisïau fel hyn yn ymestyn drwy'r economi, ein gwasanaethau cymdeithasol, a'n lles cenedlaethol.
“Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae ein plant yn haeddu gwell, ac ymhen blwyddyn, bydd gan bobl Cymru ddewis i gymryd llwybr gwahanol at ddyfodol gwell, ac fe fydd Plaid Cymru yn barod i'w gwasanaethu.”