“Rhaid cefnogi’r bobl sydd wedi eu heffeithio’n economaidd gan y diswyddiadau ym Mhort Talbot ym mhob ffordd bosib i’w helpu i ailsgilio ac uwchsgilio” meddai Sioned Williams AS
Mae Sioned Williams, Aelod Seneddol Gorllewin De Cymru, wedi galw am gyllid cynaliadwy ar gyfer rhaglenni hyfforddi ac addysg sydd wedi’u targedu at bobl cymunedau Castell-nedd Port Talbot.
Daw’r galwadau ar ôl i Tata Steel, sy’n berchen ar y gwaith dur ym Mhort Talbot, gau’r ffwrneisi chwyth a chyhoeddi cynlluniau i ddiswyddo 2,800 o bobl, penderfyniad a fydd yn effeithio ar filoedd yn fwy o bobl yn y gadwyn gyflenwi ac hefyd yn cael effaith anochel ar ffyniant a chyfleoedd cyflogaeth yn y gymuned ehangach.
Yn ddiweddar, bu Sioned Williams AS yn ymweld â chanolfan addysgu yn Sandfields, Port Talbot, lle mae’r cwmni addysg, Whitehead-Ross, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i bobl leol ar bynciau sy’n amrywio o rifedd i adeiladu.
Wedi’i leoli nepell o’r gwaith dur, yng nghanol ystâd Sandfields, mae Whitehead-Ross eisoes wedi helpu 300 o bobl o’r gymuned leol yn eu hwb addysgu, gan gynnwys 100 sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r gwaith dur a’i gadwyn gyflenwi.
Ar hyn o bryd mae Whitehead-Ross Education yn derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ond bydd y cyllid hwn yn dod i ben cyn bo hir ac mae Ms Williams yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DG i roi sicrwydd y bydd cyllid cynaliadwy ar gael ar gyfer rhaglenni hyfforddiant ac addysg yn yr ardal.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Rwyf wedi codi cyfrifoldeb y llywodraeth i gefnogi’r gweithlu a’r holl bobl a sefydliadau yng nghymuned ehangach Port Talbot ar nifer o achlysuron. Wel, dyma gwmni sy’n gwneud yn union hynny - gan ddarparu hyfforddiant hanfodol a defnyddiol yng nghalon y gymuned a fydd yn cael ei effeithio fwyaf gan y sefyllfa economaidd bresennol ym Mhort Talbot.
“Ond rydym eisoes yn gwybod bod y ffrwd ariannu yn dod i ben yn fuan. Mae’n ddyletswydd ar Lywodraethau’r DG a Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer rhaglenni hyfforddiant ac addysg fel hyn yn gynaliadwy, fel bod y bobl yr effeithir arnynt fwyaf yn economaidd gan y colledion swyddi ym Mhort Talbot yn cael eu cefnogi ym mhob ffordd bosibl i’w helpu i ailsgilio ac uwchsgilio.
“Yn ogystal, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gadarnhau pa gymorth ariannol ychwanegol y byddan nhw’n gallu ei gynnig i gyngor Castell-nedd Port Talbot a chynghorau cyfagos wrth iddyn nhw ddelio ag effaith yr hyn sydd wedi digwydd gyda’r gwaith dur a’r straen ychwanegol anochel ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen.”
Dywedodd Jo Osgood, Pennaeth Sgiliau Cymru ar gyfer Whitehead-Ross Education:
“Mewn ymateb i golli swyddi a gafwyd yn Tata Steel, gweithredodd Whitehead-Ross Education yn gyflym i sicrhau y gallai pobl sydd wrth galon y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gael mynediad at gefnogaeth a hyfforddiant cyflogadwyedd ar frys.
“Gyda chefnogaeth cytundebau Sgiliau Digidol UKSPF Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Multiply, mae ein Hacademi Gyflogaeth yn Aberafan eisoes wedi cefnogi dros 300 o bobl ers mis Mawrth 2024, gyda mwy na 100 o’r rheini naill ai’n dod yn uniongyrchol o Tata Steel neu ei gadwyni cyflenwi.
“Mae’n hanfodol bod cyllid fel hyn yn parhau i fod ar gael i gefnogi’r gwaith hwn.”