“Tra bod siopau’n gorwedd yn wag ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dal i ddigwydd, bydd pryderon am ganol tref Castell-nedd yn parhau” – rhybudd Sioned Williams AS i Lywodraeth Cymru
Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau cychwynnol ei harolwg ar Ganol Tref Castell-nedd, mae Sioned Williams AS wedi cyfarfod â'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol i godi rhai o'r cwestiynau allweddol gan drigolion a masnachwyr.
Roedd arolwg Ms Williams ar ddyfodol canol tref Castell-nedd ar agor yn ystod mis Mai, er mwyn i drigolion, perchnogion busnes ac ymwelwyr â'r dref ddweud eu dweud. Cwblhaodd bron i 400 o bobl yr arolwg, gyda 57% ohonynt yn ymweld â'r dref fwy nag unwaith yr wythnos, a bron i 1 o bob 5 o'r ymatebwyr yn dweud eu bod yn ymweld bob dydd.
Ar ôl i Sioned Williams AS rannu canlyniadau cychwynnol o'r arolwg yn y Senedd, galwodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol newydd, Sarah Murphy AS, am gyfarfod â’r AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru i ddarganfod mwy am yr ymatebion, a oedd yn cynnwys awgrymiadau ar sut i wella'r dref - fel grantiau teyrngarwch i fusnesau bach, cynlluniau disgownt parcio a mesurau i’w gwneud yn haws i gynnal digwyddiadau yng nghanol y dref.
Roedd Ms Williams hefyd wedi gallu codi pryderon ynghylch siopau gwag, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac effaith colli siopau mawr fel Marks and Spencer.
Bydd Ms Williams nawr yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol i archwilio syniadau pellach am sut i gefnogi marchnad hanesyddol Castell-nedd.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Roedd canlyniadau'r arolwg yn glir - er bod gan bobl leol lawer i fod yn falch ohono o ran canol tref Castell-nedd, mae nifer â theimladau negyddol ar hyn o bryd, ac mae pryderon gwirioneddol dros ddyfodol y dref.
“Roeddwn yn falch iawn bod y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol newydd wedi cymryd diddordeb yn yr hyn sydd gan fy etholwyr i'w ddweud. Mae hi wedi mynegi pryderon o'r blaen bod cyfrifoldeb ar bobl leol i ddefnyddio canol eu tref yn rheolaidd, felly roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod dros hanner yr ymatebwyr i'm harolwg yn bobl sy'n defnyddio canol y dref sawl gwaith yr wythnos.
“Roedd yn galonogol clywed bod sgyrsiau yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a thîm adfywio tref yr Awdurdod Lleol, a chodais hefyd gyda'r Gweinidog yr angen i gadw ein strydoedd yn ddiogel, ond mae'n amlwg nad yw effaith strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer canol trefi yn cael ei theimlo gan drigolion ac mae angen iddynt weld rhai o'r cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu. Tra bod siopau yn gorwedd yn wag, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau, bydd yn anodd perswadio pobl fel arall.
“Rhan bwysig o'm hymgyrch i gefnogi canol tref Castell-nedd fydd sicrhau fy mod yn cadw'r sgwrs i fynd gyda phobl a busnesau lleol a rhannu'r hyn rwyf wedi'i ddarganfod gyda nhw yn ogystal â pharhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall canol tref Castell-nedd elwa o gefnogaeth. Rwy'n awyddus i gynnal cyfarfod cyhoeddus i wneud hyn, ond byddwn hefyd yn annog trigolion a masnachwyr i gysylltu â mi yn y cyfamser os oes ganddynt unrhyw awgrymiadau pellach.”