logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Ymgyrchoedd > Iechyd Menywod > Ymweliad â Chyfeillion Mynwes Pont-y-clun

Ymweliad â Chyfeillion Mynwes Pont-y-clun

07.02.2024

Bwyd cynnes, tân cynnes a chwmni cynnes – mae'n amlwg bod llawer o fy etholwyr yn gwerthfawrogi'r Hwb Cynnes ym Mhont-y-clun. Llongyfarchiadau i Pontyclun Bosom Pals, y Cynghorydd Wayne Owen a'r tîm ymBoars Headyn Tyla Garw. Nes i ymweld â'r grŵp yn ôl ym mis Rhagfyr hefyd. Wedi tyfu o'r gymuned, er mwyn y gymuned – roedd yn hyfryd cwrdd â Sue, Llysgennad Pontyclun Boson Pals. Er ei fod wedi'i leoli ym Mhont-y-clun, mae'r grŵp hefyd yn darparu cefnogaeth i bobl yng Ngorllewin De Cymru - er enghraifft Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed. Os gallwch gyrraedd Pont-y-clun yn hawdd, ac yn chwilio am rwydwaith cymorth canser y fron, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r grŵp gwych hwn.

Sioned a rhai aelodau o Bosom Pal

Pob newyddion