logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Ysgol Godre'r Graig: Cwestiwn i'r Prif Weinidog

Gofynnwyd i'r Prif Weinidog am adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Godre'r Graig

30.09.2025

Gofynnwyd i'r Prif Weinidog am adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Godre'r Graig

Heddiw, mae Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi gofyn i'r Prif Weinidog am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gael ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Gynradd Godre'r Graig, sydd wedi bod yn addysgu ei disgyblion mewn cabanau milltiroedd i ffwrdd o'u cymuned ers chwe mlynedd bellach.

Yn 2019, nodwyd risg lefel ganolig o domen sbwriel chwarel ger Ysgol Gynradd Godre'r Graig ac yn sgil hynny, caewyd yr ysgol a symudwyd disgyblion allan o'u cymuned i gabanau dros dro ym Mhontardawe.

Mae cais am gymorth i ariannu adeilad newydd wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ond mae'r ansicrwydd parhaus, sy’n cael ei ddwysáu gan ymatebion y Llywodraeth hyd yma, yn effeithio ar nifer y disgyblion.

Yn ei chwestiwn i'r Prif Weinidog, nododd Sioned Williams AS, o'r ohebiaeth a ddarparwyd i'r ysgol, ei bod yn ymddangos bod y cais yn cael ei asesu fel pe bai ar gyfer ysgol newydd sbon - nid adeilad i gymryd lle ysgol a gaewyd heb fai ar y staff na'r disgyblion ond oherwydd effaith etifeddiaeth ddiwydiannol y gymuned. Gofynnodd Ms Williams i Lywodraeth Cymru gydnabod yr amgylchiadau eithriadol sydd wedi arwain at angen adeilad newydd ar yr ysgol.

Mewn ymateb un llinell rhoddodd y Prif Weinidog y bai ar y cyngor.

Meddai Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru:

Roedd plant, staff a chymuned Godre'r Graig yn haeddu ymateb gwell i'w sefyllfa na'r hyn a roddwyd gan y Prif Weinidog heddiw.

Fe wnes i gyfarfod ag arweinwyr yr ysgol yn ddiweddar a'r hyn a welais oedd ysgol gydag ethos sy'n canolbwyntio ar y gymuned, staff angerddol ac ymroddedig, a disgyblion cwrtais, croesawgar sy'n haeddu adeilad ysgol newydd.

Caewyd yr adeilad hwn heb fai ar yr ysgol, ei staff na'i disgyblion ond yn hytrach creithiau ein hetifeddiaeth ddiwydiannol - sy'n parhau i effeithio ar ein plant hyd heddiw.

Byddaf yn ysgrifennu at y Prif Weinidog i fynnu ymateb mwy sylweddol.

Gallwch ddarllen cofnod y Senedd yma.

Yn ôl