Taliad plentyn uniongyrchol yw’r dull fwyaf effeithiol o leihau tlodi plant
25.06.2025
Taliad plentyn uniongyrchol yw’r ymyriad fwyaf pwerus ac effeithiol er mwyn lleihau tlodi yn ôl adroddiad diwedda
Dangosodd adroddiad diweddar gan Policy in Practice mai’r modd fwyaf pwerus ac effeithiol er mwyn lleihau tlodi yw taliad uniongyrchol.
Mae Sioned Williams AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar daliad plentyn ar unwaith i “gyrraedd bron i un-mewn-tri o aelwydydd sydd mewn tlodi”, a “lleihau tlodi plant o bron i chwarter”.
Mae’r polisi wedi ei ysbrydoli gan y Taliad Plentyn yn yr Alban, sydd wedi helpu’r Alban i fod yr unig genedl yn y DU ble mae tlodi plant i fod i ostwng yn ôl adroddiadau diweddar.
Erbyn 2029, mae disgwyl i dlodi plant gynyddu i 34.4% yng Nghymru, sef y gyfradd uchaf o holl genhedloedd y DU.
Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol:
“Nid yw'r angen i fynd i'r afael â thlodi erioed wedi bod yn fwy difrifol.
“Dros y 30 mlynedd diwethaf, fod plant yn gyson wedi wynebu'r cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru.
“Byddai taliad plant uniongyrchol, gan ddysgu o'r Alban, lle mae polisi tebyg eisoes yn codi degau o filoedd o blant mas o dlodi, yn drawsnewidiol.
“Mae angen inni ddewis llwybr gwahanol yng Nghymru os ydym am gyflawni'r ddyletswydd yna i warchod a meithrin dyfodol ein cenedl.
“Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae ein plant yn haeddu gwell.”