Tlodi: Dadl y Senedd ar berfformiad y llywodraeth
08.05.2025
Mewn araith i'r Senedd, mae Sioned Williams AS yn trafod ymateb y Prif Weinidog i doriadau lles arfaethedig gan Lywodraeth y DU
Mae Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi codi pryderon am ymateb y Prif Weinidog i doriadau lles arfaethedig Llywodraeth y DU.
Cyfeiriodd Ms Williams at araith Eluned Morgan i'w phlaid ddydd Mawrth (6 Mai 2025), lle siaradodd Ms Morgan am anghytundebau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â phenderfyniadau ar doriadau lles, gan ei chymharu â’r perthynas rhwyng y cymeriadau o fewn Gavin & Stacey, rhaglen gomedi boblogaidd.
Dywedodd Sioned Williams AS wrth y Senedd:
“Beth ar y ddaear oedd y cyfeiriadau di-chwaeth ac amhriodol yna i Gavin and Stacey? Cymharu anghytuno am benderfyniadau fel toriadau i les, sy'n llythrennol yn golygu bod pobl yn mynd i'r gwely yn oer, heb ddigon i fwyta, yn poeni am y biliau sy'n dod trwy'r drws, gyda rhaglen gomedi? Mae angen newid y sgript.”
Gallwch ddarllen araith Sioned Williams i'r Senedd yn llawn yma.