logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Sioned yn cynnal Bwrdd Crwn Cywarch Diwydiannol

O Her i Gyfle: Rhyddhau Potensial Cywarch yng Nghymru

17.07.2025

Ym mis Medi, cefais y fraint o ddod â ffermwyr, entrepreneuriaid, ymchwilwyr ac ymgyrchwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd ar gyfer trafodaeth fwrdd crwn ar gnwd sydd â’r potensial i drawsnewid ein heconomi a’n hamgylchedd: cywarch. Daeth yn amlwg o’r drafodaeth honno fod cywarch yn sefyll ar groesffordd llawer o’r heriau rydym yn eu hwynebu heddiw – ac yn cynnig atebion go iawn, ymarferol. O’r argyfwng hinsawdd a dirywiad economaidd mewn ardaloedd gwledig, i’r angen dybryd am ddeunyddiau cynaliadwy a chartrefi ynni-effeithlon, mae’r problemau’n gymhleth ac yn gysylltiedig. Ond mae’r cyfleoedd yr un mor helaeth.

Er gwaethaf potensial enfawr cywarch i gyfrannu at economi wyrddach a mwy cynaliadwy, mae’r sector yng Nghymru yn cael ei rwystro gan nifer o heriau sylweddol. Yn ystod y bwrdd crwn, nododd y cyfranogwyr sawl prif broblem:

  • Rheoliadau hen ffasiwn sy’n trin cywarch heb gynnwys cyffuriau – er gwaethaf ei gynnwys THC isel iawn – fel sylwedd rheoledig, gan greu biwrocratiaeth ddiangen i ffermwyr a busnesau.
  • Diffyg seilwaith prosesu yng Nghymru, sy’n golygu bod llawer o’r gwerth ychwanegol yn cael ei golli i rannau eraill o’r DU neu dramor.
  • Diffyg parodrwydd i gofleidio arloesi, lle mae “busnes fel arfer” yn cael blaenoriaeth yn rhy aml dros newid beiddgar a blaengar – hyd yn oed pan fo’r manteision yn amlwg.

Nid yw’r heriau hyn yn unig yn atal cyfleoedd economaidd; maent hefyd yn ein hatal rhag manteisio ar botensial cywarch i fynd i’r afael â materion ehangach fel newid hinsawdd, tlodi tanwydd ac adfywio gwledig.

Er mwyn deall potensial ymarferol cywarch yn well, ymwelais yn ddiweddar â datblygiad tai hempcrete yng Nghastell-nedd, yng nghwmni fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru, Luke Fletcher AS ac Arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth. Roedd yr hyn a welsom yn ysbrydoledig: cartrefi wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio hempcrete – deunydd naturiol, anadladwy, carbon-negyddol – sy’n cynnig manteision amgylcheddol yn ogystal ag ansawdd aer dan do gwell ac effeithlonrwydd ynni uwch. Cadarnhaodd yr ymweliad hwn yr hyn a glywsom yn y bwrdd crwn: mae’r atebion eisoes yn bodoli. Yr hyn sydd ar goll yw’r ewyllys gwleidyddol a’r gefnogaeth strwythurol i’w hehangu.

Dyna pam rwyf wedi codi’r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru – gan ofyn cwestiynau yn y Senedd ynghylch sut y gallwn ddiwygio’r system drwyddedu, buddsoddi mewn seilwaith prosesu, a chefnogi arloesi mewn adeiladu a ffermio cynaliadwy. Oherwydd os ydym o ddifrif am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac adeiladu economi decach, mae’n rhaid i ni gefnogi sectorau fel cywarch sy’n gallu cyfrannu at y ddau.

Ledled y byd, mae gwledydd yn dechrau sylweddoli potensial cywarch – gan ddiwygio rheoliadau, buddsoddi mewn seilwaith prosesu, a chefnogi arloesi mewn deunyddiau cynaliadwy. O adeiladu i decstilau, o ddal carbon i adfywio gwledig, mae cywarch yn cael ei gydnabod fel chwaraewr allweddol yn economi wyrdd y dyfodol. Ni all Cymru fforddio aros ar ôl. Gyda’n hetifeddiaeth amaethyddol falch, ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, a’n hangen am gyfleoedd economaidd newydd, rydym mewn sefyllfa unigryw i arwain. Ond mae hynny’n golygu gweithredu nawr – gan ddileu rhwystrau, cefnogi tyfwyr ac arloeswyr, a rhoi Cymru ar flaen y gad yn y diwydiant newydd cyffrous hwn.

Yn ôl