logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Sioned Williams yn sefyll mewn undod â gweithwyr

Sioned Williams yn sefyll mewn undod â gweithwyr

01.02.2023

Ymunodd Sioned Williams AS heddiw ag athrawon yr NEU ar y llinell biced yng Nghastell-nedd a mynychodd rali yn Abertawe o blaid gweithwyr o bob sector sydd ar streic.

Heddiw, fe ymunais ag aelodau’r undeb NEU ar y llinell biced yn Ysgol Dŵr y Felin yng Nghastell-nedd, sydd ar streic dros gyflogau ac amodau teg, yn ogystal â gwell cyllid i ysgolion. Mae’r athrawon hyn yn gweithio’n galed bob dydd er lles ein plant, a'r oll y maent yn gofyn amdano yw amodau gwaith teg fel eu bod yn gallu darparu addysg o’r ansawdd gorau posib i ddisgyblion. Ni ddylai hyn fod yn ormod i ofyn amdano.

Roeddwn hefyd yn falch o fynychu rali yn Sgwâr y Castell yn Abertawe a drefnwyd gan Gyngor Masnach Abertawe i gefnogi pawb oeddar streic heddiw, pawb oedd eisoes wedi gweithredu a phawb sy'n paratoi ar gyfer gweithredu. Roedd y siaradwyr yn cynnwys aelodau o PCS, UCU, NEU, Unsain, Unite, GMB, RMT, ASLEF a CWU.

Fel llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, rwy’n falch bod fy Mhlaid yn cefnogi’r gweithwyr hynny sy’n sefyll lan dros eu hawliau a thros hawliau pob un ohonom. Mae angen i Lywodraethau’r DU a Chymru wrando ar leisiau’r gweithwyr.

Ydych chi'n hoffi'r neges hon?

pobl yn gwisgo hivis yn y rali dros athrawon yn dal baner
grŵp o bobl gan gynnwys Sioned Williams yn y rali

Yn ôl