Sioned Williams yn dangos ei chefnogaeth i Technocamps
21.10.2025
Mae Sioned Williams AS yn gofyn i'r Prif Weinidog am “bwysigrwydd rhaglenni a Wnaed yng Nghymru fel Technocamps”
Heddiw mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog, mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi codi pryderon bod cyllid yn mynd i brifysgol yn Lloegr i ddarparu hyfforddiant sgiliau digidol ar-lein ar draul sefydliad Cymreig sydd eisoes yn darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb o ansawdd uchel.
Mae Technocamps, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe yn rhanbarth Ms Williams, yn cefnogi uwchsgilio digidol plant ac oedolion ledled Cymru trwy ganolfannau ym mhob prifysgol yng Nghymru.
Wedi’i sefydlu 22 mlynedd yn ôl, mae Technocamps wedi cyflwyno dros 5,000 o weithdai ers hynny, gan gyrraedd dysgwyr ac athrawon ledled Cymru trwy waith ymgysylltu uniongyrchol, pwrpasol a dwyieithog mewn ysgolion ac ar gampysau prifysgolion.
Yn ddiweddar, clywodd Technocamps fod eu cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi'i dorri ac yn lle hynny mae £1.4 miliwn o dan Raglen Cymorth Grant Cwricwlwm i Gymru yn mynd i Brifysgol Caerefrog yn Lloegr i ddarparu adnoddau ar-lein gyda sesiynau wyneb yn wyneb cyfyngedig.
Gofynnodd Ms Williams i'r Prif Weinidog Eluned Morgan sut roedd y Llywodraeth yn ystyried bod hyn yn ddewis addas a chost-effeithiol yn lle cyllido cefnogaeth sgiliau digidol wyneb yn wyneb, lleol, pwrpasol, wedi'i wneud yng Nghymru. Mewn ymateb, amddiffynnodd y Prif Weinidog y penderfyniad i ddyfarnu'r cyllid i sefydliad y tu allan i Gymru.
Dyfynnodd Ms Williams sylfaenydd a noddwr Technocamps, Beti Williams MBE, sydd wedi lansio deiseb yn galw am barhad i gyllid Technocamps, gan nodi pa mor ddibynnol y mae cymaint o athrawon yng Nghymru ar y rhaglen, o ystyried pa mor gyflym y mae technoleg ddigidol yn datblygu, ac sydd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “amharchu" Cymru.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Rwyf wedi cael y pleser o ymweld â gweithdy Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe a gwelais sut maen nhw’n cyflawni nodau strategol y Llywodraeth ar gyfer addysg ddigidol.
“Pan gyflwynwyd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, fe wnaethon nhw gyflwyno 10 awr o weithdai mewn 97% o ysgolion uwchradd y genedl er mwyn ei ymgorffori’n llwyddiannus. A phan gyflwynwyd y cymwysterau Technoleg Ddigidol, fe wnaethon nhw ddarparu hyfforddiant pwrpasol, wyneb yn wyneb i dros 200 o athrawon a oedd yn cael trafferth gyda’r newid o’r cyn gwricwlwm TGCh.
“Ni allai cyllid ar gyfer sgiliau digidol fod yn bwysicach yn yr oes hon o ddeallusrwydd artiffisial ac mae disodli rhaglen lwyddiannus a wnaed yng Nghymru, sy'n darparu cefnogaeth leol, bwrpasol, wyneb yn wyneb gydag un a ddarperir gan Brifysgol yn Lloegr yn benderfyniad sy'n codi cwestiynau pellach, yn enwedig o ystyried bod ymchwil gan NESTA yn awgrymu y gallai'r dull a gynigir gan Brifysgol Efrog ddyfnhau anghydraddoldebau yn hytrach na grymuso mwy o bobl i gymryd rhan mewn STEM.
“Yn ei hateb i’m cwestiwn, mae'n siomedig bod y Prif Weinidog wedi methu â chydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd rhaglen sgiliau digidol lwyddiannus a wnaed yng Nghymru fel Technocamps, sydd eisoes yn cynnig cefnogaeth allweddol ledled Cymru, ac sy'n cael ei ganmol mor uchel gan athrawon.
“Ar adeg pan fo prifysgolion Cymru mewn argyfwng ariannol, mae'n ergyd ychwanegol bod cyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau digidol wedi mynd i brifysgol yn Lloegr.”
Gallwch ddarllen cofnod y Senedd yma.
Gallwch wylio fideo o Sioned Williams yn siarad yn y Senedd yma: