Siarad gyda disgyblion Canolfan Gwenallt Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
17.10.2025
Sioned yn cymryd rhan yn rhaglen Allgymorth Addysg y Senedd mewn ysgol leol.
Wedi mwynhau mas draw yn siarad gyda disgyblion Canolfan Gwenallt Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, mewn sesiwn addysg wleidyddol oedd yn egluro popeth o faniffestos i sut i fwrw eich pleidlais.
Roedd yn wych siarad am fy rôl ac am etholiad nesa’r Senedd a phwysigrwydd defnyddio eu pleidlais er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.
Diolch am eich cwestiynau gwych.







