Pryderon eang wedi'u codi ynghylch cau cwmni gwasanaethau ynni yn Llansamlet
19.01.2026
Mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru wedi codi pryderon ynghylch goblygiadau ehangach wedi i gwmni Consumer Energy Services ( CES) roi’r gorau i fasnachu.
Ddydd Gwener 9 Ionawr, cyhoeddwyd y byddai bron i 300 o swyddi'n cael eu colli yn CES, y mwyafrif yn eu canolfan yn Llansamlet, Abertawe, yn sgil dileu cynllun ariannu ECO4 Llywodraeth y DG.
Trwy'r cynllun hwn, roedd aelwydydd cymwys yn gallu gwneud cais am grantiau i helpu gyda gwelliannau cartref i wella effeithlonrwydd ynni.
Ar ôl rhannu'r newyddion ar ei chyfryngau cymdeithasol, mae etholwyr wedi cysylltu â Ms Williams yn mynegi pryderon ynghylch ansawdd peth o’r gwaith a wnaed ar ran CES.
Yn ôl adroddiad gan y BBC, dywedodd llefarydd ar ran CES: "Ni fyddwn yn gallu cynnal unrhyw waith adferol na thrwsio, na symud ymlaen na datrys unrhyw gwynion presennol."
Mae Ms Williams wedi codi pryderon ynghylch cefnogaeth i'r rhai sydd gyda gwaith heb ei orffen neu o ansawdd gwael, y mae llawer ohonynt yn debygol o fod yn oedrannus neu'n agored i niwed.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae’r newyddion diweddar fod CES wedi rhoi’r gorau i fasnachu wedi bod yn sioc i'r rhanbarth rwy’n ei gynrychioli: o ran y colledion swyddi yn Llansamlet a’r effaith ar y gwaith hanfodol i leihau tlodi tanwydd yng Nghymru, ond nawr mae’n dod yn amlwg bod rhai wedi dioddef oherwydd gwaith o ansawdd gwael gan gontractwyr sy’n gweithredu ar ran CES, heb fawr o syniad sut y bydd hyn yn cael ei ddatrys.
Mae gan Gymru rai o'r tai hynaf ac oeraf yn Ewrop, ac mae yna bobl, fel fy etholwyr, sydd wedi cael eu gadael gyda chartrefi mewn cyflwr gwaeth nag cyn iddynt wneud cais am grant ECO4, gyda phryderon difrifol ynghylch diffyg cefnogaeth. A chofiwch mai rhai o’r rhain yw ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, sydd eisoes mewn tlodi tanwydd.
Er nad yw cynllun ECO4 o fewn cylch gwaith Llywodraeth Lafur Cymru, mae eu gwaith i leihau tlodi tanwydd yn sicr o gael ei effeithio gan ddileu’r cynllun hwn. Fodd bynnag, pan ofynnais i Lywodraeth Cymru am hyn, yn dilyn y cyhoeddiad yng Nghyllideb y DG, nid oeddent yn gallu cadarnhau a oedd asesiad effaith wedi’i gynnal.
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd eu rhaglen Cartrefi Cynnes eu hunain nawr, oherwydd yr ofn gwirioneddol yw bod y mater hwn yn ergyd ddifrifol i sicrhau cartrefi cynhesach a mwy effeithlon yng Nghymru, yng nghanol gaeaf oer iawn.”
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.
Cafodd y stori hon sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol:
Nation Cymru: Senedd Member raises concerns over ‘vulnerable citizens’ left in unsuitable housing (erthygl yn Saesneg yn unig)
[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]
Herlad of Wales: Sioned Williams MS raises plight of constituents left with “shoddy” work by CES contractors (erthygl yn Saesneg yn unig)
[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]
Swansea Bay News: Concerns grow over ‘shoddy’ work as CES collapse leaves households in limbo (erthygl yn Saesneg yn unig)
[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]