logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Profion sgrinio HPV cartref hanfodol

Cymru ar ei hôl hi o ran profion sgrinio HPV cartref hanfodol

24.06.2025

Mae Sioned Williams AS yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau brys i “amddiffyn menywod rhag y canser ataliadwy hwn”

Mae Sioned Williams AS yn siarad yn Siambr Hywel, yn y Senedd

Mae Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros gydraddoldeb, wedi galw heddiw am gyflwyno profion sgrinio cartref HPV yng Nghymru.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DG y bydd y profion hyn yn cael eu cynnig i bobl sydd wedi methu apwyntiadau sgrinio serfigol yn Lloegr.

Y llynedd, dangosodd cynllun peilot llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda y gall hunan-samplu HPV gynyddu'r nifer sy'n cael eu sgrinio’n sylweddol, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydynt yn mynychu apwyntiadau mewn clinig neu sy’n methu â mynychu.

Eto i gyd, er gwaethaf galwadau gan elusennau canser i gyflwyno profion hunan-sgrinio HPV, nid oes unrhyw gynlluniau wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru eto.

Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb, ac Aelod Senedd dros Orllewin De Cymru:

“Canser ceg y groth yw un o'r canserau mwyaf cyffredin ymhlith menywod dan 35 oed yng Nghymru o hyd ac mae HPV yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r achosion hyn. Mae nifer y menywod sy’n cael profion ceg y groth traddodiadol yn gostwng, ond gwyddom o’r cynllun peilot fod yn well gan dros hanner ohonynt sgrinio gartref na’r prawf ceg y groth traddodiadol. Mae’n amlwg bod angen gwneud popeth o fewn ein gallu i atal canser ceg y groth.

“Cawsom y cyfle i arwain ar hyn yng Nghymru, ac yn awr rydym ar ei hôl hi. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi pa gamau y mae’n eu cymryd i gyflwyno profion hunan-samplu HPV ac i’n sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn menywod a phobl sydd â cheg y groth, rhag y canser ataliadwy hwn.”

Yn ôl