logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Plaid yn beirniadu Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Plaid yn beirniadu Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar fethiant gwasanaeth prydau ysgol poeth yn Ysgol Godre’rgraig

08.06.2021

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Gyngor Llafur Castell-nedd Port Talbot i ddarparu prydau poeth i blant Ysgol Gynradd Godre’rgraig

Symudwyd yr ysgol o'i lleoliad gwreiddiol yn Godre’rgraig oherwydd nodi risg o symudiad mewn tomen rwbel y tu ôl i'r ysgol ym mis Gorffennaf 2019.

Ar y pryd, dywedwyd mai mesur dros dro oedd y penderfyniad i adleoli'r ysgol i safle ym Mhontardawe.

Dros y cyfnod hwn nid yw disgyblion wedi derbyn pryd poeth yn yr ysgol, ac mae rhieni bellach wedi derbyn cyfathrebiad gan yr awdurdod lleol yn eu hysbysu y bydd yr ysgol yn aros yn y lleoliad hwn am flwyddyn academaidd arall.

broccoli gyda llwy du

Dywedodd AS Plaid Cymru Sioned Williams:

“Nid yw’r sefyllfa bresennol yn foddhaol. Nid yw’n iawn nad yw disgyblion ar safle dros dro Ysgol Godre’rgraig wedi derbyn cinio ysgol poeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Roedd rhai o’r disgyblion hyn mor ifanc â phum mlwydd oed pan symudon nhw i safle Pontardawe.

“Rydyn ni'n gwybod bod prydau ysgol yn hanfodol bwysig o ran maeth ac mae gen i bryderon ynghylch yr effaith mae hyn yn ei chael ar y plant.

“Mae prydau ysgol yn sicrhau cinio poeth unwaith y dydd i ddisgyblion, ac rwy’n poeni bod disgyblion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, yn dioddef o ran diffyg maeth oherwydd y sefyllfa.”

Ychwanegodd yr AS Plaid Cymru :

“Gyda’r awdurdod lleol yn hysbysu rhieni bod y trefniant dros dro am barhau am flwyddyn arall o leiaf, credaf fod dyletswydd ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot i sefydlu system lle gall y disgyblion dderbyn cinio ysgol poeth, yn yr un modd mae disgyblion eraill ledled y sir.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Cyngor am y mater hwn ac rwy'n gobeithio y byddant yn gweithredu wrth baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.”

Yn ôl