logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > MS yn beirniau 'diffyg gweithredu’ yr argyfwng deintyddiaeth

Mae MS yn beirniadu ‘anweithgarwch’ ar argyfwng deintyddiaeth

15.03.2023

Sioned yn siarad yn siambr y Senedd

Beirniadodd AS Gorllewin De Cymru, Sioned Williams, am bod dim digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng presennol yn amseroedd aros deintyddiaeth y GIG, yn dilyn cyhoeddi adroddiad newydd a ddatgelodd “gwir raddfa’r argyfwng”.

Y llynedd, cynhaliodd AS Sioned Williams arolwg i brofiadau ei hetholwyr o ddefnyddio gwasanaethau deintyddol yn y GIG, lle bu i gannoedd o bobl gwyno am anawsterau o ran cael mynediad at wasanaethau deintyddol am ddim, ac amseroedd aros hir; fe gododd Sioned y materion hyn ar y pryd yn y Senedd mewn cwestiwn i’r Gweinidog Iechyd.

Datgelodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, nad yw’n glir faint o unigolion sy’n aros am driniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru, gan ei gwneud yn anodd darparu cymorth digonol yn yr ardaloedd sydd fwyaf eu hangen, ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw'r lefelau cyllid presennol yn ddigonol i ymdrin â'r ôl-groniad, ac i ystyried creu un rhestr aros ganolog ledled Cymru.

Dywedodd Sioned Williams:

“Mae’r darlun sydd wedi’i beintio yn adroddiad heddiw yn cyd-fynd yn llwyr â’r ymatebion y derbyniais y llynedd gan gannoedd o’m hetholwyr yng Ngorllewin De Cymru.

“Mae’r adroddiad yn rhoi darlun damniol o wasanaethau deintyddol ledled Cymru, ac o ddiffyg gweithredu i ddelio â’r argyfwng hwn. Mae adroddiad y Pwyllgor  hefyd yn adleisio canfyddiadau adroddiad diweddar gan Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe a amlygodd fod 70% o bobl yn teimlo dan bwysau i dalu am ofal deintyddol preifat er mwyn iddynt allu cael apwyntiad, a bod llawer yn methu â chael mynediad i wasanaethau deintyddol y GIG, gan gynnwys menywod beichiog a phlant.

“Ni all fod yn deg y gall y cyfoethog neidio’r ciw drwy fynd yn breifat a chaiff pobl eu gadael heb wasanaethau digonol, neu heb apwyntiad o gwbl, ac nid wyf wedi fy mherswadio y bydd diwygio contractau  yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn ddigonol ac ar unwaith. Rwy’n cefnogi galwad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd am ddiwygio radical i sicrhau dyfodol deintyddiaeth y GIG.”

Yn ôl