logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Llythyr at Drafnidiaeth Cymru

Llythyr at Drafnidiaeth Cymru

19.07.2022

Gorsaf Drenau Castell-nedd sy'n rhoi'r argraff gyntaf i lawer o ymwelwyr â'r dref. Yr wyf wedi siarad gyda llawer o drigolion sy'n cytuno bod angen camau mawr i'w wella, felly rwyf wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru ynglŷn â’r orsaf a’u cynlluniau ar gyfer gwneud gwelliannau. Yn eu hymateb, amlinellwyd cynlluniau sydd ar y gweill i wella glendid, hygyrchedd, chysylltiadau a gwelliannau i'r bont droed. Soniwyd hefyd am drafodaethau ynghylch cynllun cyfnewidfa ar gyfer yr orsaf a'r ardal gyfagos gan y Cyngor. Byddaf yn parhau i wthio am wybodaeth am gynlluniau i’w rhannu’n gyhoeddus, er mwyn i drigolion cael cyfle i ddweud eu dweud am ddyfodol yr orsaf bwysig hon.

Llythyr ar bapur pennawd

Yn ôl