logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Cymhorthfa Cymunedol Aberafan

Cymhorthfa Cymunedol Aberafan

13.04.2023

Cynhaliais gymhorthfa gymunedol gynhyrchiol iawn yn ddiweddar yng Nghanolfan St Paul’s yn Aberafan.

Braf oedd cael cwmni Cyng. Andrew Dacey, Gareth o Tai Tarian a'r PCSO lleol, Kasia. Buom yn siarad â thrigolion lleol am faterion yn ymwneud â thai ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bydd fy nhîm a minnau’n yn dilyn i fyny ar y materion hyn. Roedd hefyd yn wych dal i fyny gyda Swyddogion Cymunedol Gwasanaeth Ieuenctid CNPT Andrew a Stuart ac actifyddion lleol fel Chris a Kym sy'n gweithio'n frwd i gefnogi'r gymuned leol a gwella sefyllfaoedd y mwyaf difreintiedig.

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu trafod gyda mi ffoniwch 01639 203204 neu e-bostiwch sioned.williams@senedd.cymru 

SCCH Kaisa, Gareth Thomas (Tai Tarin), Sioned a'r Cynghorydd Andrew Dacey yn eistedd y tu ôl i fwrdd

PCSO Kaisa, Gareth Thomas (Tai Tarin), Sioned a Cyng Andrew Dacey

Yn ôl