logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Croesawu a dathlu buddsoddiad mewn addysg Gymraeg

Croesawu a dathlu buddsoddiad mewn addysg Gymraeg

17.10.2023

Roedd yn bleser mynychu agoriad swyddogol dosbarthiadau newydd a chanolfan trochi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Pontardawe ddydd Gwener diwethaf gyda’r Cynghorydd Chris Williams, Maer Castell-nedd Port Talbot,  Arweinydd Cyngor CNPT y Cynghorydd Stephen Hunt a’r Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Aelod Cabinet Addysg CNPT y Cyng. Nia Jenkins, a Llywodraethwyr - a chlywed y disgyblion yn perfformio. 

Sioned Williams AS gyda'r Cynghorydd Chris Williams, Maer Castell-nedd Port Talbot, Arweinydd Cyngor CNPT y Cynghorydd Stephen Hunt a'r Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Aelod Cabinet CNPT dros Addysg y Cynghorydd Nia Jenkins, a'r Llywodraethwyr

Pan oeddwn yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yno, roeddem bob amser yn chwilio am gyllid i wella’r adeiladau. Gwych gweld yr ysgol o'r diwedd yn cael y buddsoddiad y mae'n ei haeddu. 

Yn ôl