logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Arweinydd Plaid Cymru yn ymweld â distyllfa Abertawe

Arweinydd Plaid Cymru yn ymweld â distyllfa Abertawe

21.11.2023

Mae’n “ysbrydoledig” gweld treftadaeth Abertawe yn cael ei hymgorffori mewn prosiect “modern, uchelgeisiol” - Rhun ap Iorwerth a Sioned Williams AS

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, a’r Aelod Seneddol lleol Sioned Williams wedi ymweld â Distyllfa Penderyn sydd newydd agor yn Abertawe.

Sioned Williams AS ac Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn ymweld â distyllfa wisgi Penderyn yn Copperworks Abertawe

Wedi’i leoli yn yr hen weithfeydd copr, roedd Rhun ap Iorwerth AS wrth ei fodd i ddysgu am y cysylltiadau â mwyngloddiau copr ei etholaeth Ynys Môn yn arddangosfa'r cyfleuster.

Mae copr a gynhyrchwyd yn ‘Copperopolis’ – hen ffugenw Abertawe yn anterth ei chyfnod cynhyrchu copr - bellach yn cael ei ddefnyddio yn y ddistyllfa ei hun.

Galwodd Mr ap Iorwerth y brand yn “ysbrydoledig” o ran y ffordd yr oedd yn adfer ac yn adlewyrchu hanes Cymru fel rhan o’i fodel busnes modern, uchelgeisiol, tra nododd Ms Williams bwysigrwydd defnyddio'r adeilad a'r safle treftadaeth at ddiben newydd, mewn ffordd a fydd yn denu twristiaid i’r ardal.

Dangoswyd Mr ap Iorwerth a Ms Williams o amgylch y cyfleusterau modern gan y Prif Weithredwr Stephen Davies.

Sioned Williams AS ac Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn mynd ar daith o amgylch distyllfa wisgi Penderyn yn Copperworks Abertawe

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae clywed am weledigaeth Stephen ar gyfer y brand, a gweld penderfyniad Penderyn i gofleidio diwylliant Cymru yn ysbrydoledig, ac mae’n dangos i ni sut y gallwn adeiladu Cymru fodern, uchelgeisiol sy’n adlewyrchu ein treftadaeth a’n gwerthoedd. 

“Mae distyllfeydd wisgi copr Penderyn yn adleisio hanes diwydiannol Cymru o ‘Copperopolis’ Abertawe i fwyngloddiau copr Ynys Môn. Dyma gwmni sy'n sicrhau bod ei bresenoldeb i'w deimlo ar lwyfan byd-eang, ac yn adrodd stori Cymru - ddoe a heddiw - wrth wneud hynny.

“Dymunaf bob llwyddiant i Stephen a’r tîm ar eu menter ddiweddaraf yma yn Abertawe.”

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru,:

“Mae’n wych gweld yr adeilad treftadaeth gwych hwn yn cael ei adfer a’i ddefnyddio. Mae’n dda gweld busnesau'n dod i’r ardal hon sy’n dod â chyflogaeth i bobl leol ac a fydd yn denu llawer o ymwelwyr i Abertawe - rhywbeth a fydd, gobeithio, yn rhoi hwb i’r diwydiant twristiaeth lleol.

“Mae hi mor gyffrous cael brand mor enwog yn yr ardal, a gwych, hefyd, i weld yr arddangosfa ar hanes y lleoliad. Mae hanes Abertawe a’r gwaith copr oedd gyda'r mwyaf blaenllaw yn y byd yn rhy bwysig i’w anghofio, ac mae’n wych gweld sut mae Penderyn wedi cofleidio hanes y safle a’i ymgorffori yn eu hatyniad twristiaeth.”

Yn ôl