logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2025 > Rhaid i gymru beidio â chael unrhyw ran yn yr hil-laddiad

Rhaid i gymru beidio â chael unrhyw ran yn yr hil-laddiad yn Gaza

16.09.2025

“Rhaid i Brif Weinidog Cymru wneud mwy i sicrhau nad yw Cymru ag unrhyw ran yn hil-laddiad gan Israel yn Gaza” – Sioned Williams AS

Sioned yn siarad yn siambr y Senedd yn gwisgo top coch a siaced ddu

Mae Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, wedi galw ar y Prif Weinidog i sicrhau nad yw Cymru’n chwarae unrhyw ran yn yr hil-laddiad gan Israel yn Gaza.

Heddiw (dydd Mawrth 16 Medi 2025) cyhoeddwyd bod Comisiwn Ymchwilio'r Cenhedloedd Unedig wedi dod i'r casgliad bod Israel wedi cyflawni hil-laddiad yn erbyn Palestiniaid yn Gaza.

Mae Ms Williams wedi gofyn ddwywaith i'r Prif Weinidog gadarnhau a yw canolfannau milwrol Cymru yn cael eu defnyddio i hyfforddi milwyr Israel, ac i gymryd camau i sicrhau nad oes unrhyw weithgareddau, partneriaethau a chytundebau caffael Llywodraeth Cymru ar gyfer cwmnïau neu weithgareddau yn gysylltiedig ag unrhyw feddiannu tiriogaeth neu weithred filwrol anghyfreithlon gan Israel.

Mewn ymateb ysgrifenedig i Ms Williams, mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y defnydd o gyfleusterau hyfforddi milwrol Cymru yn “fater i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.”

Nid oedd yr ymateb ysgrifenedig yn mynd i'r afael â'r cwestiwn am weithgareddau, partneriaethau a threfniadau caffael Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru:

Rhaid i'r Prif Weinidog wneud mwy i sicrhau nad yw Cymru'n chwarae unrhyw ran yn hil-laddiad Israel yn Gaza.

Mae'r cyhoeddiad heddiw gan Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig yn un hynod arwyddocaol ac yn cadarnhau natur y trais arswydus yr ydym wedi bod yn dyst iddo ar y cyfryngau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Nid yw'n ddigon da bod y Prif Weinidog wedi gwrthod cydnabod mai ei chyfrifoldeb hi yw hyn. Mae ei hymateb un llinell ar fater mor bwysig â rhan bosib Cymru mewn hil-laddiad yn syfrdanol. Rhaid iddi ddarparu cadarnhad nad yw Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig – trwy weithgaredd, partneriaeth neu gaffael – ag unrhyw gwmni sy'n gysylltiedig ag unrhyw weithred anghyfreithlon gan Israel, a rhaid iddi hefyd geisio cadarnhad a yw canolfannau milwrol Cymru yn cael eu defnyddio i hyfforddi milwyr Israel ai peidio, a gwrthwynebu hynny os yw’n digwydd.

Mae gan Gymru ddyletswydd statudol i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac mae'n ddyletswydd ar Brif Weinidog Cymru i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw i gadarnhau a yw Cymru yn cefnogi mewn unrhyw fodd yr hil-laddiad hwn ai peidio.”

Yn ôl