Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2025 > Gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe
Adroddiad newydd ar wasanaethau mamolaeth Bae Abertawe yn datgelu diffygion strwythurol
15.07.2025
Mae adroddiad wedi'i ryddhau gan Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe
Mae adroddiad wedi'i ryddhau gan Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe, grŵp o deuluoedd yr effeithir arnynt gan fethiannau mewn gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Bae Abertawe.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at straeon dirdynnol teuluoedd sydd wedi dioddef colled a thrawma, tra’n tynnu sylw at fethiannau strwythurol a diwylliannol o fewn y gwasanaethau hyn.
Mae Sioned Williams AS wedi talu teyrnged i’r holl deuluoedd sydd wedi siarad am eu pryderon, a dywedodd:
“Mae nifer o adroddiadau i wasanaethau mamolaeth Bae Abertawe wedi tynnu sylw at broblemau hirhoedlog, ond mae'n ymddangos bod cynnydd yn boenus o araf.
Heddiw, wrth i ni nodi Wythnos Trawma Geni, dylai adroddiad dirdynnol sy’n uniongyrchol gan y rhai yr effeithir arnynt gan y methiannau, orfodi’r llywodraeth hon i gymryd o ddifrif y diffygion strwythurol yn ein GIG.
“Mae’r rhain yn broblemau nad ydynt wedi’u cyfyngu i Fae Abertawe. Mae problemau gyda rheoli, staffio a hyfforddiant yn ein GIG yn gadael pobl, teuluoedd a chymunedau i lawr.”