Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2025 > Galw cyfarfod cyhoeddus dros gau banc
Galw cyfarfod cyhoeddus dros gau banc
30.01.2025
Sioned Williams AS yn galw cyfarfod i glywed barn trigolion ar gynlluniau i gau'r banc olaf yng Nghwm Tawe
Mae Sioned Williams AS, sy'n byw ym Mhontardawe, ac yn Aelod o'r Senedd dros y rhanbarth, wedi mynegi ei "dicter" dros benderfyniad Grŵp Bancio Lloyds i gau eu cangen yn y dref.
Bydd cau'r banc ym mis Tachwedd 2025, yn gadael Pontardawe - a Chwm Tawe cyfan - heb fanc.
Mae Ms Williams wedi galw cyfarfod cyhoeddus am 6pm ddydd Iau 6 Chwefror yn Llyfrgell Pontardawe i glywed barn trigolion.
Yn y cyfamser, mae hi wedi agor deiseb fel bod pobl leol sy'n methu mynychu'r cyfarfod yn hefyd yn medru cyfrannu eu barn.
Mae Sioned Williams hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Lafur y DG i ofyn am "weithredu ar atal y llanw o fanciau sy'n gadael ein strydoedd mawr yng Nghymru."
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Rwy'n hynod o grac y bydd tref Pontardawe yn cael ei gadael heb fanc yn dilyn penderfyniad Lloyds i gau eu cangen ym mis Tachwedd. Hwn fy manc lleol ac rwy'n gwybod bod defnydd mawr ohono! Bydd cau'r banc yn gadael bwlch enfawr o ran gwasanaethau bancio yng Nghwm Tawe.
“Dwi'n gwybod bod angen banc go iawn ar fusnesau ac ar drigolion lleol - dyw nifer ohonyn nhw ddim yn bancio ar-lein. Mae sicrhau ein bod yn cadw'r gallu i brynu a gwerthu gydag arian parod yn ein cymunedau yn fater o degwch a chynhwysiant.
“Er enghraifft fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd ar Anableddau Dysgu, rwyf wedi bod yn cefnogi ymgyrch Mencap i sicrhau y gall pobl ddefnyddio arian parod i dalu am nwyddau a gwasanaethau. Rwyf wedi clywed gan lawer o bobl ledled Cymru nad ydynt yn gallu defnyddio bancio ar-lein, na defnyddio cardiau debyd neu gredyd, ond mae ganddynt y gallu i ddefnyddio arian parod, ac mae hyn yn rhan bwysig o'u hannibyniaeth.
“Er mwyn i fusnesau bach allu derbyn arian parod, maen nhw angen gwasanaethau sydd gerllaw er mwyn ei fancio. Mae banciau felly yn golygu mwy i gymuned na dim ond lle sy'n trin a tharfod eu harian - maen nhw'n galluogi llif arian drwy gymuned.
“Mae grwpiau bancio mawr yn aml yn hysbysebu eu hunain fel calon eu cymuned, ac yn hapus i elwa o'r sefyllfa honno, ond mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am y canlyniadau pan maen nhw'n penderfynu gadael. Rwy'n credu ei fod yn sgandal nad oes rheidrwydd ar fanciau sy'n gwneud elw enfawr i ddarparu gwasanaethau i'r cymunedau sydd wedi bod yn gwsmeriaid ffyddlon iddynt ers degawdau.”