logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2025 > Effaith ‘Theatr Mewn Addysg’

‘Theatr Mewn Addysg’ yn uwch ar agenda‘r Llywodraeth

21.05.2025

Theatr Na nÓg yn cael ei ganmol yn y Senedd gan Sioned Williams am neges bwysig drama newydd ar ddiogelwch dŵr

Sioned Williams AS y tu allan i'r Senedd

Mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru wedi canmol cwmni theatr Castell-nedd, Theatr Na nÓg, am ei “waith arbennig” wrth gyrraedd pobl ifanc gyda neges bwysig ac amserol am beryglon neidio a nofio mewn dŵr sydd heb ei orchwylio.

Mae’r cynhyrchiad, ‘Y Naid / Just Jump’, a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Awdurdod Harbwr Caerdydd a Phorthladd Aberdaugleddau, yn rhoi sylw hefyd i’r pwysau gall fod ar bobl ifanc i ymuno mewn ymddygiad o'r fath.

Mae’r amseru’n arbennig o dorcalonnus yn sgil y ffaith bod cwest i farwolaeth David Ejimofor, 15 oed, a foddodd oddi ar draeth Aberafan, Castell-nedd Port Talbot, ar ôl neidio i’r môr gyda’i ffrindiau yn cael ei gynnal yr wythnos hon.

Yn y Senedd, gofynnodd Ms Williams i’r Gweinidog Diwylliant pa ystyriaeth a roddwyd i rôl Theatr mewn Addysg yn strategaeth ddiwylliant newydd Llywodraeth Cymru i “geisio sicrhau bod trasiedïau diangen fel hon yn cael eu hatal?

Mewn ymateb, cytunodd y Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant ei bod yn “bwysig iawn” gwella mynediad at ddiwylliant i “achub bywydau a gwella bywydau hefyd” a dywedodd y byddai'n “ymgymryd â’r pwyntiau” a godwyd gan Ms Williams.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae gan ddiwylliant le mor ganolog wrth sicrhau lles a herio agweddau niweidiol er budd ein cymdeithas.

“Clywsom am oblygiadau difrifol a thorcalonnus hyn yr wythnos diwethaf, gyda'r cwest i farwolaeth David Ejimofor, 15 oed, a oedd yn etholwr i mi, a foddodd yn y môr yn Aberafan.

“Bob blwyddyn, mae pobl ifanc yng Nghymru yn colli eu bywydau mewn dŵr, a gall theatr helpu i gyfleu’r peryglon mewn ffordd sy’n denu sylw pobl ifanc – rhywbeth y mae ‘Y Naid’ gan Theatr Na nÓg yn ei wneud mor dda.

“Ond ni fydd gan bob disgybl ledled Cymru gyfle i weld y cynhyrchiad, er bod y cwmni wedi bod yn ymdrechu ers rhai blynyddoedd i sicrhau hyn, felly mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ystyried blaenoriaethu ymgyrchoedd Theatr Mewn Addysg cenedlaethol. Rwy’n falch bod y Gweinidog yn gwrando.”

 

Yn ôl