Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2025 > Academi bêl-droed yn gwrthod rhoi lle i blentyn
Cwestiynau am hawliau plentyn wedi iddo gael ei wrthod lle mewn academi bêl-droed
19.11.2025
Sioned Williams AS yn sicrhau ymrwymiad gan y Prif Weinidog i ymyrryd ar ran etholwr
Mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi codi cwestiynau am reol Swyddfa Gartref sy'n atal plant sy'n ceisio lloches rhag derbyn lle mewn academïau pêl-droed.
Er nad yw lle i blant mewn academïau pêl-droed yn 'gyflogaeth' gan nad ydynt yn derbyn unrhyw arian, o dan reolau mewnfudo presennol y DG, mae chwaraewyr academi yn cael eu cyfrif fel 'chwaraewyr proffesiynol' ac felly mae angen iddynt fod â hawl i weithio, sydd ddim yn bosib i geiswyr lloches.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhannu pryder Ms Williams bod y polisi hwn yn cyfyngu'n annheg ar gyfleoedd i chwaraewyr ifanc ddatblygu eu potensial, gan ddweud eu bod wedi mynd â’r achos i'r Swyddfa Gartref, ond heb lwyddiant.
Wrth annerch y Prif Weinidog yn y Senedd ar ddydd Mawrth 18 Tachwedd, gofynnodd Sioned Williams AS a fyddai Llywodraeth Cymru yn "pwyso ar Lywodraeth y DG i newid y polisi hwn."
O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo, mae Erthygl 31 yn gwarantu hawl i bob plentyn gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden, ac mae Erthygl 2 yn eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu.
Nododd Ms Williams hefyd fod Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch effaith rheolau mewnfudo ar hawliau plant o dan y CCUHP - yn enwedig eu hawl i chwarae, datblygu a chymryd rhan mewn bywyd hamdden.
Mewn ymateb, addawodd y Prif Weinidog gysylltu gyda Llywodraeth y DG ar ran y plentyn.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
Mae’r achos hwn yn dangos sut y gall polisi San Steffan danseilio’r hawliau dynol y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod am i bob plentyn yng Nghymru eu cael.
Yn amlwg nid yw hyn yn ymwneud â chyflogaeth - mae’n ymwneud â chynhwysiant, lles, yr hawl i chwarae.
Er bod system fewnfudo sy’n seiliedig ar reolau yn hanfodol, pan fo rheolau mor anhyblyg fel eu bod yn atal plant rhag chwarae pêl-droed, a’r cyfan y mae hynny’n ei gynnig o ran iechyd meddwl, cynhwysiant cymdeithasol, a hapusrwydd plant, rhaid edrych arnynt eto.
Rwy’n falch o glywed y Prif Weinidog yn addo cysylltu â’r Swyddfa Gartref ar ran fy etholwr.
Cafodd y stori hon sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol:
Nation Cymru: Child seeking asylum blocked from Welsh football academy place under Home Office rules (erthygl yn Saesneg yn unig)
[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]
South Wales Chronicle: Serious questions about rights of child denied place in football academy
[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.